Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 20 Medi fe wnaethom gyhoeddi cyllid cychwynnol o £1 miliwn i gefnogi Canolfannau Clyd. Heddiw rwy’n cyhoeddi sut bydd y cyllid hwnnw yn cael ei ddosbarthu a beth fydd ei ddiben.

Gan fod pris tanwydd domestig yn cynyddu, disgwylir y bydd llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd cadw eu cartrefi ar dymheredd iach y gaeaf hwn, yn enwedig pobl sydd gartref drwy’r dydd, pobl hŷn a phobl agored i niwed. Mae nifer o sefydliadau gan gynnwys awdurdodau lleol, cynghorau cymuned, grwpiau ffydd, clybiau chwaraeon, a chanolfannau cymunedol eisoes yn sefydlu Canolfannau Clyd o fewn cymunedau lleol, neu’n bwriadu eu sefydlu. Diben Canolfannau Clyd yw bod yn lle yn y gymuned leol lle gall pobl ddod o hyd i amgylchedd diogel, hygyrch a chynnes yn ystod y dydd er mwyn helpu i leihau’r gost o gynhesu eu cartrefi eu hunain, er mwyn cynorthwyo’r rhai sy’n wynebu tlodi tanwydd eithriadol y gaeaf hwn.

Mae trafodaethau cynnar gyda rhanddeiliaid wedi nodi y dylai Canolfannau Clyd fod yn lle croesawgar i dreulio amser. Dylent fod yn agored ac yn gynhwysol, ac yn ystyrlon o anghenion lleol a diwylliannol.

Gallai Canolfannau Clyd gynnig y canlynol:

  • lluniaeth a byrbrydau (o leiaf) ond gallent ymestyn i brydau bwyd mwy sylweddol ble bo’n berthnasol neu’n bosibl.
  • cyngor a chymorth i’r rheini sy’n bresennol, er enghraifft cyngor a chymorth ar faterion ariannol, iechyd a lles neu hygyrchedd digidol.
  • gweithgareddau fel ymarfer corff, neu weithgareddau celfyddydol neu ddiwylliannol (yn ddibynnol ar y lleoliad ac argaeledd).

Cymunedau lleol sydd â’r arbenigedd ynglŷn â lle dylid lleoli Canolfannau Clyd, a beth ddylai gael ei ddarparu ynddynt. Awdurdodau lleol, gan weithio mewn partneriaeth â’r sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a phartneriaid cymunedol, fydd yn y lle gorau i fesur a deall anghenion lleol a darpariaeth bresennol, ac i gynllunio a darparu datrysiadau lleol.

Bydd cyllid ar gyfer y Canolfannau Clyd felly yn cael ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleol yng Nghymru. Bydd yn cael ei ddosbarthu yn unol â’r fformiwla bresennol y cytunwyd arni ag awdurdodau lleol. Fel rhan o’r cyllid bydd angen i awdurdodau lleol ymgysylltu â’u partneriaid lleol, gan gynnwys Cynghorau Gwirfoddol Sirol, i ddatblygu Canolfannau Clyd a darparu/dosbarthu cyllid ar lefel gymunedol leol i grwpiau cymunedol lleol sy’n dymuno gweithredu/sefydlu Canolfan Glyd.

Mae’n bwysig bod y dull o ddarparu Canolfannau Clyd yn gyson ac yn diwallu anghenion lleol. Yn yr un modd ag y disgwylir y bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol, disgwylir y bydd unrhyw sefydliad sy’n dymuno darparu Canolfan Glyd yn cysylltu â’i awdurdod lleol neu ei gyngor gwirfoddol sirol er mwyn sicrhau ei fod yn darparu fel rhan o’r dull gweithredu cyffredinol yn yr ardal yn hytrach na dyblygu darpariaeth leol. Mae’n bosibl y bydd yn fwy priodol i sefydliadau a gwirfoddolwyr weithio gyda Chanolfannau Clyd presennol mewn rhai lleoliadau, yn hytrach na sefydlu rhai ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth am y trefniadau lleol ar gyfer Canolfannau Clyd a chyllid lleol, byddwn yn annog pobl i gysylltu â’u hawdurdod lleol i gofrestru eu diddordeb.