Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o helpu pobl Wcráin yn eu hymgais ddewr i wrthsefyll ymosodiad Putin ar eu sofraniaeth, eu hannibyniaeth, a’u hawl i wneud penderfyniadau drostynt eu hunan.

Rydym eisoes wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r ymdrech ddyngarol yn Wcráin, ac wedi ymrwymo i ddarparu lefel uchel o gymorth i letya pobl o Wcráin sy’n chwilio am ddiogelwch a noddfa yng Nghymru. Mae hyn yn digwydd yn y tymor byr drwy ein cynllun uwch-noddwyr, ac yn y tymor hwy drwy fuddsoddi cyllid cyfalaf, yn ogystal â’ncyllideb adeiladu tai cymdeithasol, i gefnogi datblygiad arloesol cartrefi ychwanegol.

Mae ein gwariant ar gymorth dyngarol i bobl Wcráin yn mynd y tu hwnt i’r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Nid ydym yn derbyn cyllid canlyniadol ar gyfer ein canolfannau croeso neu ganolfannau cyrraedd er enghraifft, gan fod y darpariaethau hyn yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael i bobl o Wcráin sy’n cyrraedd Lloegr. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod ymdrechion enfawr awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y trydydd sector a’r ystod eang o bartneriaid eraill yng Nghymru am chwarae eu rhan wrth fynd ati i ddarparu’r cymorth hwn.

Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth dyngarol i bobl Wcráin, a phriodol yw bod y DU yn parhau i ddarparu’r cymorth milwrol y mae mawr ei angen. Fodd bynnag, mae amddiffyn a materion tramor yn faterion a gedwir yn ôl.

Mae’r Trysorlys yn gweithredu mewn modd newydd sy’n peri pryder ac a allai fod yn gynhennus – drwy geisio defnyddio cyllidebau datganoledig, y dylid eu gwario ar fuddsoddi mewn meysydd datganoledig fel iechyd ac addysg, i ariannu meysydd o wariant a gedwir yn ôl fel cymorth milwrol ac amddiffyn. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw ariannu’r meysydd hynny.

Yn y pen draw, oherwydd yr amgylchiadau eithriadol, rydym wedi derbyn y sefyllfa hon yng ngoleuni ein hymrwymiad parhaus i gefnogi Wcráin a’i phobl yn eu brwydr yn erbyn yr ymosodiad direswm hwn, ond ni ddylai hyn osod cynsail ar gyfer y dyfodol.

Nid yw’r cyllid hwn wedi cael ei ddarparu o danwariant Llywodraeth Cymru, ond bydd yn arwain at orfod gwneud penderfyniadau heriol am ein cyllideb gyfalaf gyfyngedig.