Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl bwysig y mae Seicolegwyr Addysg yn ei chwarae o ran mynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan blant a phobl ifanc mewn addysg yng Nghymru. Mae eu gwaith yn helpu i gefnogi lles rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed ac yn gwella eu cyfleoedd dysgu.

Yn dilyn trafodaethau helaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), dyrannwyd arian ychwanegol i CCAUC er mwyn sicrhau darpariaeth hyfforddiant barhaus ar gyfer seicolegwyr addysg yng Nghymru yn y tymor byr.

Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i nodi model cynaliadwy ar gyfer sicrhau darpariaeth o seicolegwyr addysg yng Nghymru yn y tymor hwy.

I gefnogi a llywio'r broses hon, bydd swyddogion yn comisiynu gwaith manwl ar gynllunio a datblygu'r gweithlu.

Bydd y gwaith hwn yn sail i ystyried sut y bydd gwasanaethau arbenigol a rhaglenni hyfforddiant proffesiynol yn cael eu darparu yng Nghymru yn y dyfodol, ac opsiynau cynaliadwy ar gyfer eu hariannu.