Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n dyrannu cyllid o £15.4 miliwn i awdurdodau lleol i gyflwyno mesurau i wella diogelwch ac amodau ar gyfer dulliau teithio llesol yn eu hardal mewn ymateb i argyfwng Covid19 ac i sicrhau newidiadau cynaliadwy o ran ymddygiad teithio yn y dyfodol.   

Cawsom gyfanswm o 209 o gynigion ar gyfer mesurau gan bob awdurdod lleol mewn ymateb i’r gwahoddiad am ddatganiadau o ddiddordeb.  Mae hyn yn amlwg yn dangos yr angen, a pharodrwydd awdurdodau lleol, i gyflwyno mesurau i warchod iechyd a diogelwch y cyhoedd ac i alluogi pobl i ddewis y dulliau iachaf a mwyaf cynaliadwy o deithio am bellter byrrach nawr ac yn y dyfodol.  Yn ystod y cyfyngiadau symud bu cynnydd mawr mewn cerdded a beicio ymhlith unigolion a theuluoedd, ar gyfer ymarfer corff ac i wneud teithiau angenrheidiol.  Mae angen inni bellach weithredu i gynnal y dulliau yma o deithio sy’n ystyried yr hinsawdd, ac i osgoi dychwelyd at ddewisiadau teithio sy’n ddibynnol iawn ar geir.

Ymhlith y mesurau amrywiol sy’n cael eu cynllunio ar lefel leol, rwyf wedi gofyn i awdurdodau lleol flaenoriaethu’n glir y broses o gyflawni’r cynlluniau y gellir eu cwblhau o fewn y tri i bedwar mis nesaf ac sy’n cael yr effaith fwyaf ar eu hardal leol. 

Mae £2 filiwn o’r cyllid yn cael ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer cynlluniau ger ysgolion.  Gyda plant yn dechrau dychwelyd i ysgolion yn yr wythnosau nesaf, mae’n bwysig galluogi plant, boed ar eu pennau eu hunain neu gyda chwmni, i gerdded neu feicio yn ddiogel i’r ysgol a chadw pellter cymdeithasol wrth gyrraedd gatiau’r ysgol er mwyn creu arferion teithio llesol gydol eu hoes. 

Bydd y cyllid sy’n cael ei ddyrannu heddiw yn gwella amodau i gerddwyr a beicwyr mewn ardaloedd trefol a gwledig.  Yn Sir Gaerfyrddin er enghraifft, rydym yn ariannu pecyn o fesurau i hyrwyddo teithio llesol tra’n hwyluso pellter cymdeithasol mewn trefi gwledig yn benodol.  Mae hyn yn cynnwys uwchraddio llwybrau troed, dangos y ffordd a chodi arwyddion at y llwybrau sy’n caniatáu cynnal y pellter cymdeithasol gorau.  Mae hefyd yn cynnwys ail-drefnu ffyrdd i sicrhau mwy o le ar lwybrau troed ac i wella diogelwch/capasiti i feicwyr.     Yn Sir Ddinbych, rydym yn ariannu mesurau yng nghanol tref Y Rhyl i ddileu dros dro rai lleoedd i barcio ar y stryd, er mwyn rhoi lle i gerdded a beicio yn ddiogel.  Bydd hyn hefyd yn creu llwybrau teithio llesol di-draffig i’r prif gyrchfannau o fewn y dref.

O ystyried yr angen i weithredu’r newidiadau yn gyflym i gefnogi’r camau sy’n rhaid inni eu cymryd yn ystod y cyfnod o adferiad o Covid, bydd awdurdodau lleol yn cael rhagor o amser i ddatblygu rhai o’u cynigion yn llawn, i gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb y mesurau arfaethedig ac i drafod yn adeiladol gyda’r grwpiau yr effeithir arnynt.  Bydd hyn yn sicrhau bod gennym gymaint o gyfleoedd â phosibl o’r buddsoddiadau yr ydym wedi’u cynllunio ac i ofalu am anghenion grwpiau bregus o fewn ein cymunedau. 

Bydd disgwyl i awdurdodau lleol hefyd fonitro effaith y mesurau y maent yn eu sefydlu, a, ble y bo angen, wneud newidiadau.  Gallant ddefnyddio hyd at 5% o’u dyraniad i wneud hynny yn ogystal â hyrwyddo a hysbysu’r newidiadau sy’n cael eu gwneud ac annog teithiau ar droed ac ar feic.   

Mewn cydweithrediad â’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, ein bwriad yw gwneud camau dilynol wedi’r gyfran hon, a sicrhau bod rhagor o gyllid ar gael ble y mae ei angen.  Byddwn yn gweithio’n broactif gydag awdurdodau lleol i ddatblygu ymyraethau pellach, uchelgeisiol fel rhan o’r rhaglen Trawsnewid Trefi. 

Bydd rhestr lawn o gynlluniau llwyddiannus gan awdurdodau lleol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar y ddolen hon https://llyw.cymru/mesurau-trafnidiaeth-cynaliadwy-cynghorau-lleol-dyrannu-cyllid