Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cysylltiad rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad addysgol yn glir - mae colli cyfnodau parhaus o'r ysgol yn peri risg go iawn i gyrhaeddiad plentyn a gall hefyd arwain at deimlo wedi’u hymddieithrio mwy o'u haddysg.

Mae'r Gwasanaeth Lles Addysg yn darparu cefnogaeth hanfodol i ysgolion a theuluoedd drwy archwilio'r rhesymau y tu ôl i absenoldeb ysgol, cynnig gwybodaeth ac arweiniad, cynghori teuluoedd am wasanaethau cymorth arbenigol, a gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau priodol pan fo angen.

Mae'n bleser gennyf gadarnhau felly ein bod yn buddsoddi £2.5 miliwn ychwanegol yn y Gwasanaeth Lles Addysg. Bydd y cyllid hwn yn darparu capasiti ychwanegol sydd mawr ei angen er mwyn i’r gwasanaeth allu darparu cymorth cynharach, cyn i faterion waethygu, yn ogystal chymorth mwy dwys i ddysgwyr ag absenoldeb uchel.

Rydym yn gwybod bod mwy o ymgysylltu â theuluoedd yn cael effaith gadarnhaol ar wella presenoldeb. Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn sicrhau bod partneriaethau cryf yn cael eu datblygu rhwng ysgolion, teuluoedd, cymunedau ac asiantaethau eraill. Gwyddom y gall y cymorth ychwanegol y maent yn ei gynnig fod yn adnodd hynod effeithiol i ysgolion i’w helpu i estyn allan at rieni a gofalwyr a'u cynnwys yn nysgu eu plant. Dyna pam rydym hefyd yn cynyddu'r cyllid hwn i £2.5 miliwn, sy’n mynd â chyfanswm y buddsoddiad ar gyfer eleni i dros £6.5 miliwn.

Mae'n hanfodol bod seilwaith addysg ar waith i gefnogi ein buddsoddiad mewn lles addysg. Felly, rydym hefyd yn darparu £40 miliwn o gyllid cyfalaf i helpu i drawsnewid ysgolion yn ysgolion bro - mannau sydd wrth wraidd cymunedau lleol, lle mae gwasanaethau a chyfleusterau allweddol wedi'u cydleoli, gan ddod â rhieni, gofalwyr ac aelodau o'r gymuned leol at ei gilydd y tu hwnt i oriau ysgol traddodiadol.

Bydd y cyllid hwn yn adeiladu ar y buddsoddiad cyfalaf o £20 miliwn a wnaed yn ystod 2022-23 a bydd yn parhau i gefnogi gwaith cyfalaf allweddol sy'n hanfodol i agor safleoedd ein hysgolion yn ddiogel ac effeithiol, gan alluogi mwy o ddefnydd gan y gymuned. Gall hyn gynnwys gwaith ar raddfa fawr, megis hybiau cymunedol ar gyfer rhaglenni i rieni a rhaglenni allgymorth cymunedol penodol a gofod cymunedol i annog defnydd aml-asiantaethol.