Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Fel rhan o'n hymrwymiad i flaenoriaethu cymorth i bobl y mae diffyg diogeledd bwyd yn effeithio arnynt, rwy'n cyhoeddi heddiw fod £1.7 miliwn ychwanegol wedi’i neilltuo eleni i fynd i'r afael â thlodi bwyd. Mae'r cyllid hwn yn ychwanegiad at y £2.8 miliwn a ddyrannwyd eisoes y flwyddyn ariannol hon gan Lywodraeth Cymru i helpu i liniaru achosion sylfaenol tlodi bwyd a mynd i'r afael â nhw – ac mae hwn ar ben y £22 miliwn a ddyrannwyd i gefnogi tlodi bwyd ers 2019.
Bydd y cyllid yn cynnwys:
- Cymorth bwyd brys ychwanegol, a ddosberthir i awdurdodau lleol, i helpu i gryfhau mentrau bwyd cymunedol presennol, gan gynnwys rhoi sylw i weithgareddau sy'n helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Dylai sefydliadau a hoffai elwa ar yr cymorth hwn gysylltu â'u hawdurdod lleol i’w drafod ymhellach.
- Cyllid i helpu i gefnogi partneriaethau bwyd traws-sector ym mhob un o ardaloedd yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r partneriaethau amlasiantaethol hyn yn helpu i ddeall a diwallu angen lleol, gan fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd trwy wella effeithiolrwydd prosiectau a sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu i'r ardaloedd sydd â'r angen mwyaf.
Bydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddosbarthu drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd y cyllid hefyd yn cynnwys cyllid i Fareshare Cymru i gefnogi dosbarthu a hyrwyddo eu rhwydwaith o fanciau bwyd y gaeaf hwn a phrynu offer dosbarthu bwyd i sicrhau y gall FareShare Cymru barhau i ddiwallu anghenion uniongyrchol a thymor hir sefydliadau bwyd cymunedol. Bydd hefyd yn cefnogi gweithgareddau addysg bwyd i helpu teuluoedd ar incwm isel sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau bwyd.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.