Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd gwladolion yr UE sy’n bwriadu astudio yng Nghymru am y flwyddyn academaidd 2019/20 yn gymwys i dalu’r un ffioedd dysgu â myfyrwyr o Gymru a byddant hefyd yn gymwys i gael benthyciadau a/neu grantiau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru – yn amodol ar y meini prawf sydd eisoes yn eu lle o ran cymhwystra. 

Mae hyn yn barhad o’r polisi presennol a bydd myfyrwyr yn parhau i dderbyn cymorth nes y byddant yn gorffen eu cwrs. Mae hyn yn berthnasol i holl gyllid myfyrwyr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru y mae gwladolion yr UE yn gymwys amdano. Mae hyn yn cynnwys grantiau a benthyciadau i dalu am ffioedd dysgu (ar gyfer y rheiny sy'n byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd am dair blynedd), benthyciadau a grantiau cynnal  (yn gyfyngedig i'r rhai sy'n byw yn y DU am dair blynedd o leiaf), a rhai grantiau a lwfansau eraill.

Nid yw’r rheolau sy'n berthnasol i wladolion yr UE sydd wedi gwneud cais am le mewn prifysgol ym mlwyddyn academaidd 2018/19 i astudio cwrs sy'n denu cymorth i fyfyrwyr wedi newid. Bydd CMC yn asesu'r ceisiadau hyn yn erbyn y meini prawf presennol, a bydd yn darparu benthyciadau a/neu grantiau yn y ffordd arferol. Bydd gwladolion yr UE, neu aelodau o'u teulu, sy'n cael eu hasesu’n gymwys i gael grantiau a/neu fenthyciadau gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedyn yn gymwys drwy gydol eu hastudiaethau ar y cwrs hwnnw.

Dylai myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd ymgynghori â swyddog cyllid myfyrwyr eu prifysgol neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael.