Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o allu cyhoeddi y bydd pobl yng Nghymru sy’n byw gydag effeithiau’r cyffur Thalidomide yn parhau i gael mynediad at Grant Iechyd yr Ymddiriedolaeth Thalidomide ar ôl i’r cytundeb 10 mlynedd presennol ddod i ben ym mis Mawrth 2023, ac y bydd y grant yn cael ei ymestyn i warantu cymorth ariannol am oes.

Cafodd y cyffur tawelu Thalidomide ei gymeradwyo a’i drwyddedu ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU ym mis Ebrill 1958, a rhoddwyd y gorau i’w ddefnyddio ym mis Rhagfyr 1961 pan welwyd ei fod yn achosi namau difrifol i fabanod menywod a oedd wedi ei gymryd yn ystod beichiogrwydd.

Mae’r rhan fwyaf o oroeswyr Thalidomide bellach yn 60 oed neu’n hŷn. Fel pawb arall, bydd eu hanghenion corfforol a chanlyniadol yn siŵr o gynyddu wrth iddynt heneiddio, ond mae goroeswyr Thalidomide yn wynebu heriau ychwanegol gan fod y dirywio arferol mewn iechyd sy’n gysylltiedig ag oed yn cael mwy o effaith oherwydd eu hanableddau.

Mae rhaglen cyllid 10 mlynedd i gefnogi goroeswyr Thalidomide wedi bod ar waith yng Nghymru a thair gwlad arall y DU ers 2013. Mae grant blynyddol yn cael ei dalu i’r Ymddiriedolaeth Thalidomide  sy’n rheoli’r ceisiadau am gymorth ariannol gan oroeswyr tuag at amrywiaeth eang o ddibenion iechyd. Mae’r dibenion hyn yn cynnwys costau sy’n gysylltiedig â rheoli poen, cymorth a gofal personol, symudedd ac annibyniaeth, a mynediad at ymyriadau gofal iechyd pwrpasol.

Nodwedd allweddol o’r Grant Iechyd yw bod pob buddiolwr yn gallu teilwra sut mae’n gwario ei Grant Iechyd, drwy wneud ei benderfyniadau ei hun yn seiliedig ar ei anghenion a’i ddewisiadau. Yr unig gyfyngiad yw na ddylai’r gwasanaethau a’r cymorth a ariennir gan y grant ddyblygu triniaeth a gofal a ddarperir gan y GIG neu sy’n cael eu hariannu drwy ffynhonnell wahanol, megis cyllideb bersonol neu arian statudol arall.

Mae Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo cyfanswm o £7.317m i’r Ymddiriedolaeth Thalidomide ers dechrau’r cytundeb presennol yn 2013, a chafodd £0.948m pellach ei gytuno ar gyfer y flwyddyn derfynol bresennol (2022-23). Yn 2023-24, rwyf wedi cytuno ar ddyraniad grant o £1.058m a fydd yn cael ei gynyddu yn y dyfodol i gyd-fynd â chwyddiant. Mae’r trefniadau ar gyfer adolygu’r ymrwymiad ariannu yn rheolaidd wedi cael eu cytuno â’r Ymddiriedolaeth, a byddant yn ystyried nifer y buddiolwyr y rhagwelir y bydd angen cymorth Grant Iechyd arnynt, a’r anghenion isorweddol y bwriedir i'r Grant Iechyd eu bodloni.

Mae goroeswyr Thalidomide yn wynebu amrywiaeth o heriau sy’n ychwanegol at yr heriau y mae gweddill y boblogaeth yn eu hwynebu. Rwy’n gobeithio y bydd fy nghyhoeddiad ynglŷn â darparu cymorth ariannol am oes drwy’r Grant Iechyd yn rhoi sicrwydd i oroeswyr ynghylch y cymorth sydd ar gael i ddiogelu eu llesiant drwy fodloni eu hanghenion iechyd parhaus a’u helpu i barhau i fyw’n annibynnol cyhyd â phosibl.