Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi fel blaenoriaeth absoliwt, gan fanteisio i'r eithaf ar yr holl ddulliau sydd ar gael inni, gan gynnwys chwarae rôl arweiniol wrth gydgysylltu camau ehangach i weithio tuag at ddileu tlodi plant a'i effeithiau yma yng Nghymru.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod, fel rhan o'n gwaith i gryfhau'r cydweithio i fynd i'r afael â thlodi plant, wedi cymeradwyo 25 o gynigion ledled Cymru, sy'n werth mwy nag £1.5m, o dan ein Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau ar gyfer 2025/26.
Mae tlodi plant yn fater trawsbynciol, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth o brosiectau sydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid yn y broses hynod gystadleuol o ddyfarnu grantiau. Mae'r dull trawslywodraethol hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i roi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn mewn bywyd. Drwy gydlynu ein hymdrechion, gallwn fynd i'r afael yn well ag achosion sylfaenol tlodi, ac adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn.
Bydd y cynigion sy'n cael eu hariannu
- yn cryfhau gallu sefydliadau i ffurfio trefniadau gwaith cydweithredol i fynd i'r afael â thlodi plant,
- yn rhoi sylw i un neu fwy o bum amcan Strategaeth Tlodi Plant Cymru,
- yn gwella'r broses o gyfathrebu a throsglwyddo gwybodaeth wrth fynd i'r afael â thlodi plant ar lefel leol a rhanbarthol.
Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar y cyllid a ddarparwyd yn 2024/25, pan ariannwyd 22 o brosiectau i fynd i'r afael â thlodi plant.
Mae rhestr o'r holl sefydliadau llwyddiannus y cynigiwyd cyllid iddynt wedi'i chynnwys.