Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Ar y cyd â’r Gweinidog Newid Hinsawdd, rwyf yn nodi fy nghynlluniau heddiw i ddarparu pecyn cymorth i ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd a fydd werth dros £227 miliwn dros y tair blynedd ariannol nesaf i gefnogi cydnerthedd yr economi wledig a’n hamgylchedd naturiol.
Rwy’n cydnabod y rôl hollbwysig y mae ein hardaloedd gwledig yn ei chwarae ym mywyd Cymru. Yn gyfoethog o ran adnoddau naturiol, maen nhw’n cefnogi ein cymunedau a’n bywoliaeth ac yn ein helpu i adeiladu economi werdd newydd, gan ymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd sy'n ein hwynebu. Rydym yn dibynnu ar ein ffermwyr ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy, er budd diogelwch bwyd yng Nghymru ac yn fyd-eang. Diben y cyllid hwn yw sicrhau bod cefnogaeth yn parhau ar gyfer gweithredoedd pwysig oedd arfer cael eu hariannu gan Raglen Datblygu Wledig yr UE. Mae hyn yn adlewyrchu ein bwriad i gefnogi cyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen fel rhan o'n 10 mlynedd o weithredu ar newid hinsawdd, er mwyn gallu trosglwyddo i Gymru gryfach, wyrddach a thecach.
Bydd cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y tair blynedd nesaf yn cael ei ddarparu drwy fframwaith hyblyg ar draws y themâu canlynol:
- Rheoli tir ar raddfa fferm – darparu cymorth ar gyfer camau rheoli tir cynaliadwy ar y fferm.
- Gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd - gan gynnwys ffocws ar reoli maetholion, gwella effeithlonrwydd tanwydd a phorthiant, gan ymgorffori dulliau economi gylchol ac annog y defnydd o ynni adnewyddadwy.
- Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd – gan gynnwys helpu ffermydd i fod yn fwy effeithlon drwy fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd a chynnig cyfleoedd ar gyfer arallgyfeirio amaethyddol.
- Rheoli tir ar raddfa tirwedd - darparu atebion sy'n seiliedig ar natur ar raddfa tirwedd, drwy ddull cydweithredol amlsectoraidd.
- Coetiroedd a choedwigaeth - cefnogi ein hymrwymiad o greu 43,000 hectar o goetiroedd erbyn 2030 a chefnogi'r gwaith o greu strategaeth ddiwydiannol sy'n seiliedig ar bren.
- Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio - creu diwydiant bwyd a diod cryf a bywiog yng Nghymru sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth gydag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.
Bydd y fframwaith yn cyd-fynd â’r gwaith o ddatblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn gwobrwyo ffermwyr a rheolwyr tir am y gwaith a wnânt i ymateb i heriau'r argyfyngau hinsawdd a natur ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Mae hefyd am sicrhau ein bod yn rheoli ein tir drwy gydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn fwy, gan wneud hynny ar draws y dirwedd. Bydd hyn yn cefnogi ein hymrwymiadau bioamrywiaeth, ein huchelgeisiau sero net a’n haddasiadau ehangach i newid hinsawdd.
Mae swyddogion wedi bod yn datblygu cynlluniau i gefnogi'r themâu hyn a byddant yn ymgysylltu â phartneriaid wrth i waith dylunio manwl barhau. Rwyf yn cydnabod nad oes amser i wastraffu, felly yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf bydd nifer o gynlluniau'n agor i geisiadau, gyda chyfanswm gwerth dros £100 miliwn. Mae manylion y cynllun i'w gweld yn Atodiad 1.
Mae trafodaethau yn parhau gyda Phlaid Cymru ynglŷn â gweithredu ar ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gyda’r gymuned ffermio i annog creu coetiroedd ar dir llai cynhyrchiol a trwy ddulliau amaeth-goedwigaeth a chynnal perthi ac ymylon caeau, a trwy archwilio ffyrdd o ennyn buddsoddiadau ar gyfer creu coetiroedd sydd yn sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio ar hyn gyda’n gilydd.
Bydd mwy o gynlluniau'n cael eu lansio ar ôl i swyddogion gael cyfle i ymgysylltu â phartneriaid. Byddaf yn cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol yn yr economi wledig dros y tair blynedd nesaf, wrth i ni barhau i drosglwyddo i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, hyrwyddo cynhyrchiant bwyd cynaliadwy, a chefnogi'r economi wledig ar y llwybr tuag at Gymru sero net sy’n bositif o ran natur.