Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Hoffwn hysbysu Aelodau’r Cynulliad y byddaf, o 27 Mai 2013 ymlaen, yn rhoi £1.5 miliwn ar gael i brosiectau Cydnerthedd Ecosystemau. Bydd y cyllid hwn yn ategu llwyddiant y Gronfa Cydnerthedd ac Amrywiaeth Ecosystemau dros y ddwy flynedd diwethaf ac yn ceisio sicrhau ecosystemau iach yng Nghymru.
Mae amgylchedd Cymru dan bwysau cynyddol oherwydd ein dulliau modern o ddefnyddio tiroedd a dyfroedd, sy’n arwain at bridd a dŵr o ansawdd wael ac yn rhoi mwy o bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd fel y nodwyd yn yr adroddiad diweddar ar gyflwr byd natur, ‘State of Nature’.
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn rheoli ein holl adnoddau naturiol, yn eu cyfanrwydd. Mae angen inni ddeall sut gallwn gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnom gan gynnal amgylchedd gryf ac iach ar yr un pryd.
Mae cynnal ecosystemau iach yn llai costus na thrin problemau yn nes ymlaen. Er enghraifft, gall dulliau rheoli tir da yn nalgylchoedd afonydd gadw’r dŵr yn lân a lleihau llifogydd. Bydd ecosystemau sy’n gweithio’n dda yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd a thywydd garw yn well.
Bydd y Gronfa Cydnerthedd Ecosystemau yn canolbwyntio ar sicrhau gwell canlyniadau i gynefinoedd a rhywogaethau a mynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol estron yn y cyd-destun ehangach hwn. Cyfoeth Naturiol Cymru a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru fydd yn gweinyddu’r Gronfa.