Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf ddarparu £4.5 miliwn ychwanegol yn 2021-22 i gefnogi darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ledled Cymru.

Bydd £4 miliwn o gyllid yn mynd i ysgolion arbennig ac unedau arbenigol yng Nghymru. Bydd yn darparu cymorth pwrpasol i blant a phobl ifanc ag ADY sydd wedi cael eu heffeithio  gan y pandemig.

Bydd £500,000 yn mynd i sefydliadau ADY yn y y trydydd sector drwy Plant yng Nghymru. Bydd yn cyfrannu at gostau a ysgwyddwyd eisoes gan y sefydliadau hyn i gynyddu dealltwriaeth o'r system ADY newydd yng Nghymru.

Mae'r cyllid hwn ar ben y £18 miliwn ychwanegol yr ydym eisoes wedi'i ddarparu mewn cyllida neilltuwyd yn benodol ar gyfer dysgwyr ag ADY yn y flwyddyn ariannol hon.

Drwy gydol y pandemig mae rhai plant a phobl ifanc ag ADY wedi wynebu rhwystrau i'w haddysg, gan gynnwys cyflyrau iechyd, pryder cynyddol ac absenoldeb parhaus o'r ysgol.  Drwy ddarparu adnoddau ychwanegol i gefnogi dysgwyr ag ADY i gael dros effeithiau'r pandemig, gallwn leihau'r tebygolrwydd y bydd effeithiau hirdymor a/neu gydol oes ar eu haddysg, eu sgiliau, eu hiechyd a'u lles.

Rydym yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff sy'n gweithio gyda phlant ag ADY i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ffynnu. Mae gan sefydliadau'r trydydd sector, ysgolion arbennig ac unedau arbenigol rôl allweddol yn y gwaith o gefnogi plant a phobl ifanc â’u haddysg. Diolch am barhau i ddarparu'r wybodaeth, y cymorth arbenigol a'r adnoddau ychwanegol sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc ag ADY.