Neidio i'r prif gynnwy

Sioned Williams AS, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cymru sydd â’r costau gofal plant uchaf yn y DU ac mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’r gwaith o gyflwyno cynnig gofal plant cyffredinol trawsnewidiol er mwyn helpu teuluoedd ledled Cymru, gan gefnogi datblygiad plant ar yr un pryd.

Rwyf yn ysgrifennu i roi gwybod i Aelodau’r Senedd am fuddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cyflymu’r broses o ehangu gofal plant a ariennir yng Nghymru.

Byddwn yn buddsoddi £55m ychwanegol mewn gofal plant eleni. Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn caniatáu inni ehangu miloedd o leoedd gofal plant a ariennir ychwanegol ledled Cymru, gan ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar ehangu gofal ar gyfer plant dwy oed.

Mae’r cyllid hwn yn gam pwysig tuag at gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20 awr o ofal wedi’i ariannu yr wythnos i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed. Ar ôl ei gyflwyno’n llawn, ein cynnig gofal plant newydd fydd yr un mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU.

Bydd y cyllid hwn yn helpu i gyflymu’r broses o gyflwyno 12.5 awr o ofal plant wedi’i ariannu yr wythnos i bob plentyn dwy oed.

Bydd £10m o gyllid cyfalaf yn helpu i wella ac ehangu lleoliadau gofal plant, gan wella ansawdd, capasiti a hygyrchedd y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar.

Bydd y cyllid yn hanfodol i gefnogi’r system gofal plant. Bydd yn helpu i reoli galw cynyddol, cryfhau cynaliadwyedd hirdymor darparwyr, a chefnogi gofal plant cyfrwng Cymraeg – gan gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27, i'w chyhoeddi ar 23 Mehefin.  Mae'r gyllideb yn nodi blaenoriaethau gwariant cynnar y Llywodraeth hon, gan dargedu buddsoddiad lle bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru.

Heddiw, mae Wrecsam wedi ymuno ag Abertawe, Merthyr Tudful a Chasnewydd i ehangu 12.5 awr o ofal plant i bob plentyn dwy oed yn eu hardaloedd.

Bydd y Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu Gofal Plant a ffurfiwyd yn ddiweddar yn cynghori ar ddatblygu’r broses gyflwyno fesul cam, gan ganolbwyntio ar gynllunio’r gweithlu, cymwysiadau digidol a gwella mynediad i bob teulu.

Byddaf yn rhoi gwybod i’r aelodau wrth inni barhau i wneud cynnydd yn y maes pwysig hwn.