Neidio i'r prif gynnwy

Julie James MS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhywfaint o gyllid ychwanegol cyfyngedig i'r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau ym mlwyddyn ariannol 2023/24.

Mae'r cyllid, o hyd at £6.8m, ar gael i gryfhau'r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau yn Ne-ddwyrain Cymru.  Caiff ei ddefnyddio i gefnogi’r rhwydwaith presennol yn unig os bydd ei angen yn dilyn ymarferion cysoni. 

Sefydlwyd y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau ym mis Gorffennaf eleni i helpu’r diwydiant i bontio o'r cyllid cynllun argyfwng bysiau y maent wedi dibynnu arno dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n ychwanegu at refeniw cwmnïau bysiau o werthiant tocynnau. Mae'n sicrhau bod gwasanaethau bysiau hanfodol yn parhau i redeg.  Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon bydd y diwydiant bysiau wedi derbyn dros £200m o gymorth gan y Llywodraeth i'w helpu i reoli effaith Covid, costau cynyddol a llai o deithwyr.

Rydym wedi bod yn glir bob amser y bydd angen rheoli'r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau a dyma enghraifft arall o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant bysiau.

Rydym yn parhau i gwrdd yn rheolaidd ag awdurdodau lleol a chwmniau bysiau i fonitro gwariant y gronfa.

Mae'n hanfodol ein bod i gyd yn chwarae ein rhan i gefnogi'r diwydiant - mae'n clymu ein cymunedau gyda'i gilydd, yn rhoi mynediad cyfartal, ac mae’r rhai nad oes ganddynt unrhyw ddewis arall yn dibynnu arno.