Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, fe gyhoeddais Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2015-16 a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin. Mae’n nodi hefyd nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau rhwng Adrannau Llywodraeth Cymru a throsglwyddiadau ag Adrannau Llywodraeth y DU. Mae hefyd yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.