Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Derfynol 2018-19 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2017.

Mae’n nodi nifer cyfyngedig o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, ac yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun craffu gan y Pwyllgor Cyllid ar 27 Mehefin a bydd yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth  10 Gorffennaf.