Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru fis Mai 2020.

Mae’n manylu ynghylch nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu’r newidiadau i’r llinellau sylfaen ers Prif Amcangyfrifon y DU 2020-21, o ganlyniad i ddyraniadau ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i'r pandemig Covid.

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun craffu gan y Pwyllgor Cyllid ym mis Tachwedd a bydd yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 17 Tachwedd.