Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r  newidiadau cyllidebol ers Cyllideb  Atodol Gyntaf 2021-22 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin.   

Yn y gyllideb hon, ceir cynnydd o £2.4bn yng nghynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru. Mae’r gyllideb hefyd yn adlewyrchu’r newidiadau i linellau sylfaen o ganlyniad i gynnwys cyfran Cymru, yn unol â fformiwla Barnett, o’r cyllid a ddyrannwyd yn Lloegr.

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Mawrth.