Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn cael ei chyhoeddi heddiw. 

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r  newidiadau cyllidebol ers Cyllideb  Atodol Gyntaf 2023-24 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2023.   

Mae'n nodi nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen oherwydd effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraetth y DU. 

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 12 Mawrth.