Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn cael ei chyhoeddi heddiw. 

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r newidiadau cyllidebol ers Cyllideb  Derfynol 2025-26 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror.   

Mae'n nodi nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen oherwydd effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU.

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 8 Gorffennaf.