Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn cael ei chyhoeddi heddiw.
Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2025-26 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2025.
Mae'n nodi nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen oherwydd effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU.
Bydd y Gyllideb Atodol yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 17 Mawrth.
