Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cyhoeddais Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw alinio strwythurau cyllidebol 2013-14 â’r newidiadau ym mhortffolios a chyfrifoldebau’r Gweinidogion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth, a dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Derfynol 2013-14 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd. Mae’n nodi hefyd nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau rhwng Adrannau Llywodraeth Cymru a throsglwyddiadau ag Adrannau Llywodraeth y DU. Mae hefyd yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.