Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddais gynigion Cyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. Mae'r Gyllideb ddrafft yn nodi cynlluniau gwario ar gyfer 2019-20, ynghyd â chynlluniau cyfalaf dangosol hyd at 2020-21.

Yn ogystal â nodi cynigion gwario refeniw a chyfalaf y Llywodraeth, mae’r Gyllideb ddrafft yn rhoi manylion am ein cynigion trethi a benthyca wrth i ni weithredu'r cyfrifoldebau ariannol newydd sydd wedi dod i Gymru.

Bydd Cyllideb 2019-20 yn cynnwys, am y tro cyntaf, refeniw trethi o gyfraddau treth incwm Cymru, sydd i’w cyflwyno ym mis Ebrill 2019.

Yn unol â'r trefniadau newydd y cytunwyd arnynt gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd y Gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi mewn dau gam. Y Gyllideb ddrafft amlinellol a gyhoeddir heddiw yw'r cam cyntaf, sy'n manylu ar ariannu, trethiant a dyraniadau ar lefel Prif Grŵp Gwariant (MEG).  Bydd y Gyllideb ddrafft fanwl yn cael ei chyhoeddi ar 23 Hydref a bydd yn nodi’r cynlluniau gwario manwl fesul portffolio.

Mae'r dogfennau a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

  • Cynigion y Gyllideb ddrafft amlinellol
  • Dogfen Naratif y Gyllideb ddrafft amlinellol, gan gynnwys yr asesiad effaith integredig strategol 
  • Taflen am y Gyllideb ddrafft amlinellol
  • Adroddiad y Prif Economegydd 
  • Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru 

Mae'r dogfen canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael yma: