Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gyllideb Ddrafft 2019-20, Cynigion Manwl.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb ddrafft amlinellol – Cyllideb i Greu Cymru Well – ar 2 Hydref.

Mae Cyllideb eleni yn gam arall yn hanes datganoli cyllidol - dyma'r flwyddyn gyntaf i refeniw a godir gan gyfraddau treth incwm Cymru gael eu cynnwys yng nghyllideb Cymru, ar ôl eu cyflwyno ym mis Ebrill 2019.

Dyma flwyddyn olaf setliad Adolygiad o Wariant presennol Llywodraeth y DU, a osododd gyllideb refeniw Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 i 2019-20 a'r gyllideb gyfalaf tan 2020-21. Dyma'r gyllideb olaf hefyd cyn bod disgwyl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019.

Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn gosod ei chynlluniau gwario manwl ar gyfer 2019-20, ynghyd â chynlluniau cyfalaf dangosol hyd at 2020-21. Mae'r ddogfen hon yn dangos sut rydym yn dyrannu ein cyllideb yn unol â'n blaenoriaethau, sydd i'w gweld yn ein strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb a'n rhaglen lywodraethu Symud Cymru Ymlaen. Mae'n cynigion manwl hefyd yn adlewyrchu cytundeb dwy flynedd y Gyllideb gyda Phlaid Cymru ar gyfer y cyfnod 2018-19 a 2019-20.

Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei Chyllideb yr Hydref ar 29 Hydref. Byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar ein cynlluniau gwario, ac yn cyflwyno unrhyw newidiadau i'r cynlluniau a gyhoeddwyd gennym yn ystod cyfnod olaf y Gyllideb ym mis Rhagfyr.

Gellir gweld cynigion y Gyllideb ddrafft fanwl , gan gynnwys tablau llinell wariant y Gyllideb (BEL) ar wefan Llywodraeth Cymru.