Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddais gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Mae'r Gyllideb Ddrafft yn nodi cynlluniau gwariant strategol ar gyfer refeniw a chyfalaf, yn ogystal â threthiant a benthyca. Mae’n cynnwys cynigion manwl y Gyllideb Ddrafft ar gyfer y portffolios yn 2023-24 a chynigion dangosol ar gyfer 2024-25.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar am y Gyllideb Ddrafft yn y Senedd y prynhawn yma.

Mae pob un o’r dogfennau a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

  • Cynigion y Gyllideb Ddrafft 
  • Dogfen Naratif y Gyllideb Ddrafft, gan gynnwys yr Asesiad Effaith Integredig Strategol
  • Llinellau Gwariant yn y Gyllideb
  • Tablau sy’n ategu’r cynlluniau gwario (fformat ODS)
  • Cyllideb Ddrafft 2023-24 - taflen

Mae'r dogfennau canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:

  • Adroddiad y Prif Economegydd
  • Llif Prosiectau Buddsoddi mewn Seilwaith
  • Cynllun Gwella'r Gyllideb
  • Adroddiad ar Bolisi Trethi: Rhagfyr 2022
  • Canllaw Cyflym Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2023-24
  • Golwg ar Drethi Cymru - asesiad annibynnol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'n cynigion trethiant