Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddais gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Mae'r Gyllideb Ddrafft yn nodi cynlluniau gwario strategol a manwl ar gyfer refeniw a chyfalaf, yn ogystal â threthiant a benthyca.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar y Gyllideb Ddrafft yn y Senedd ar 9 Ionawr 2024.

Mae pob un o'r dogfennau a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r dogfennau canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:

  • Adroddiad y Prif Economegydd 2023
  • Cynllun Gwella'r Gyllideb 2023
  • Adroddiad ar Bolisi Trethi: Rhagfyr 2023
  • Canllawiau cyflym i esbonio effaith newidiadau treth
  • Dadansoddiad dosbarthiadol o wariant cyhoeddus datganoledig yng Nghymru 2024 i 2025
  • Hyperddolen i adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar ei rhagolygon ar gyfer trethi datganoledig Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.