Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Amlinellol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Mae hon yn nodi'r cynlluniau ariannu, ein penderfyniadau o ran trethiant a benthyca, yn ogystal â'n cynlluniau gwario strategol ar gyfer adnoddau a chyfalaf ar lefel y Prif Grŵp Gwariant (MEG). 

Mae Cyllideb 2026-27 yn buddsoddi dros £27bn yng Nghymru - £22.3bn o gyllid adnoddau, £3.6bn o gyllid cyfalaf a £1.2m o gyllid ardrethi annomestig i lywodraeth leol. Mae hyn yn fwy na £800m o gyllid ychwanegol i adrannau Llywodraeth Cymru nag a ddyrannwyd yng Nghyllideb Derfynol 2025-26.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar gyda rhagor o fanylion yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw a byddaf yn cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft Fanwl ar 3 Tachwedd, yn nodi ein cynlluniau gwario ar lefel Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL).

Mae holl ddogfennau'r Gyllideb Ddrafft Amlinellol a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

  • Cynigion y Gyllideb Ddrafft
  • Adroddiad y Gyllideb Ddrafft Amlinellol 2026-27
  • Tablau sy'n ategu'r cynlluniau gwario (fformat ODS)
  • Canllaw i Gyllideb Ddrafft 2026-27 


Mae'r dogfennau ategol canlynol hefyd yn cael eu cyhoeddi heddiw:

  • Adroddiad Economaidd a Chyllidol Cymru 2025
  • Adroddiad Economaidd a Chyllidol Cymru 2025 – Pum Cipolwg Pwysig
  • Cynllun Gwella'r Gyllideb 2025
  • Adroddiad ar Bolisi Trethi: Hydref 2025
  • Cynllun Gwella’r Gyllideb
  • Rhagolwg Trethi Cymreig y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.