Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae trethi Cymru yn gwneud cyfraniad hanfodol i'r cyllid sydd ar gael yng Nghymru bob blwyddyn. Gyda'i gilydd, bydd Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC), y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ac ardrethi annomestig yn cyfrannu mwy na £5 biliwn at Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.

Mae'r datganiad hwn yn amlinellu'r penderfyniadau allweddol yr ydym yn cynnig eu gwneud o ran trethi Cymru.

Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC)

Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod cyfraddau treth incwm Cymru ar 10c ym mhob band, yn amodol ar gael cymeradwyaeth y Senedd cyn y Gyllideb Derfynol ar gyfer y tair cyfradd treth incwm (sylfaenol, uwch ac ychwanegol). Mae hyn yn cynnal y lefelau presennol a bydd yn sicrhau cydraddoldeb cyfraddau treth incwm i drethdalwyr yng Nghymru â'r rhai yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw newidiadau i gyfraddau treth incwm Cymru yn ystod 2026-27.

Mae'r Canllaw Cyflym presennol ar gyfer CTIC yn rhoi amcangyfrifon o'r effaith y gallai newidiadau i bob un o dair Cyfradd Treth Incwm Cymru ei chael ar refeniw yn 2026-27. Ar y cyd â'r Gyllideb Derfynol, byddwn yn cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o'r Canllaw Cyflym a fydd yn cynnwys rhagolwg CTIC yr hydref ar gyfer 2026-27 ac yn darparu rhagolwg newydd ar gyfer 2027-28.  

Y Dreth Trafodiadau Tir (TTT)

Ar gyfer 2026/27, bydd y cyfraddau preswyl ac amhreswyl a'r trothwyon ar gyfer TTT yn aros yn ddigyfnewid.

Rwy'n bwriadu gwneud newidiadau pellach i'r drefn Rhyddhad Anheddau Lluosog, er mwyn cyflwyno rheol ‘cydraddoli’ newydd i sicrhau cydraddoldeb fesul annedd rhwng trafodiadau anheddau lluosog ac anheddau sengl sy'n gorfod talu'r cyfraddau preswyl uwch, ac i gynyddu cyfradd isaf bresennol rheolau treth Rhyddhad Anheddau Lluosog o 1% i 3%. Bydd y newidiadau hyn yn gwella tegwch i drethdalwyr sy'n prynu mwy nag un annedd yn yr un trafodiad, neu mewn trafodiadau cysylltiedig. 

Bydd rheol ad-dalu newydd hefyd ar gyfer cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir. Bydd hyn yn berthnasol pan fo landlord preifat (y trethdalwr) yn prynu annedd ac yna'n ei brydlesu i awdurdod lleol yng Nghymru, drwy Gynllun Lesio Cymru, sy'n gynllun gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddarparu cartrefi mwy fforddiadwy. Bydd prif gyfraddau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir yn parhau i fod yn gymwys i'r trafodiad.

Ym mis Mai 2025, argymhellodd y Tasglu Tai Fforddiadwy y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu rhyddhad TTT i awdurdodau lleol pan fyddant yn prynu eiddo at ddibenion tai cymdeithasol, yn debyg i'r rhyddhad presennol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Byddaf yn adolygu effeithiolrwydd y rhyddhad presennol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac yn ystyried a yw'n briodol ei atgynhyrchu ar gyfer awdurdodau lleol.

Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT)

Mae'r Gyllideb Ddrafft yn nodi ein bwriad i gynyddu cyfradd safonol TGT ar gyfer 2026-27 yn ôl y Mynegai Prisiau Manwerthu a ragwelir, ac i gynnal y gyfradd is a'r gyfradd ar gyfer gwarediadau anawdurdodedig ar 5% a 150% o'r gyfradd safonol yn y drefn honno. 

Bydd gwerth ariannol y cyfraddau yn seiliedig ar ragolygon wedi'u diweddaru gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'r Mynegai Prisiau Manwerthu a fydd yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â Chyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU ar 26 Tachwedd. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa o'r refeniw treth a bod y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn parhau i gyfrannu at leihau gwastraff i safleoedd tirlenwi tra'n lleihau'r risg y bydd gwastraff yn cael ei symud ar draws ffiniau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £285,000 ychwanegol i Awdurdod Cyllid Cymru i ariannu mwy o weithgarwch ymchwilio mewn ymateb i warediadau anawdurdodedig. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd y cyllid hwn yn arwain at refeniw TGT ychwanegol o £715,000 yn 2026-27 o ganlyniad i gynnydd mewn gweithgarwch cydymffurfio.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ar gynigion i ddiwygio'r dreth tirlenwi yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon eleni. Ar ddechrau'r broses datganoli treth, gwnes yn glir fy mwriad i osgoi gwneud newidiadau er mwyn gwneud newidiadau. Roedd ail-lenwi chwareli, carthu a disgowntio ar gyfer dŵr yn dri maes lle gwnaethom newidiadau yn fwriadol ac, yn achos ail-lenwi chwareli a charthu, dewiswyd rhyddhau'r gweithgareddau hyn yn hytrach na'u heithrio rhag TGT. O ganlyniad i'r newidiadau hyn a wnaed wrth gyflwyno'r dreth, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn ystyried bod y rhyddhad hyn yn risg isel ac nad oes unrhyw dystiolaeth eu bod yn destun camdriniaeth. Rwy'n cyfrif hyn yn llwyddiant o ran datganoli treth.

Rwy'n parhau i fonitro ymagwedd Llywodraeth y DU at y gyfundrefn dirwyon cymwys ac ni fyddaf yn oedi cyn diwygio ein system ein hunain yng Nghymru i amddiffyn rhag symud gwastraff yn ddiangen ar draws y ffin ac i sicrhau bod ein treth yn parhau i gyfrannu at ein nodau amgylcheddol ac economi gylchol.

Yn olaf, er ein bod yn bwriadu cynyddu cyfraddau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu a ragwelir, o ystyried goblygiadau'r gwahaniaeth posibl rhwng y dreth tirlenwi a TGT, os oes angen hynny i amddiffyn rhag effeithiau ymddygiadol anfwriadol, byddaf yn cyflwyno’r cyfraddau diwygiedig i'r Senedd.