Neidio i'r prif gynnwys

Elin Jones AS, Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-28 i 2029-30.  

Dyma’r Gyllideb Ddrafft gyntaf gan Lywodraeth Plaid Cymru. Mae’n nodi cyfeiriad ac uchelgais newydd i Gymru. Rydym wedi ailffurfio cyllideb Llywodraeth Cymru i gysoni cynlluniau gwariant â’n blaenoriaethau newydd, fel y’u hamlinellwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu, i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, tyfu ein heconomi a gwella bywydau pobl.  

Dros y cyfnod a gwmpesir gan y Gyllideb Ddrafft hon, byddwn yn buddsoddi rhagor na £60 biliwn yng Nghymru i sicrhau ein bod yn dod â rhestrau aros i lawr, cefnogi teuluoedd â chostau byw, creu swyddi da ag iddynt gyflogau da, codi safonau addysgol a mynd i’r afael â thlodi plant.

Mae’r Gyllideb Ddrafft hon yn gyllideb amlflwyddyn sy’n amlinellu dwy flynedd o gynlluniau gwariant adnoddau ar gyfer 2027-28 i 2028-29 a thair blynedd o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer 2027-28 i 2029-30. Mae dogfennau’r Gyllideb hefyd yn cynnwys manylion cyllid y Llywodraeth, trethi a’r dyraniadau ar lefel y Prif Grwpiau Gwariant (MEG). 

Ym mlwyddyn ariannol 2027-28, byddwn yn buddsoddi dros £28.2bn yng Nghymru – £24.5bn o gyllid adnoddau a £3.7bn o gyllid cyfalaf.  

Byddaf yn rhoi datganiad llafar a fydd yn cynnwys rhagor o fanylion yn y Senedd yn hwyrach heddiw. 

Mae holl ddogfennau’r Gyllideb Ddrafft a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

 Mae’r dogfennau ategol canlynol hefyd yn cael eu cyhoeddi heddiw: