Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cyhoeddwyd Cyllideb Flynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15. Mae’n adlewyrchu’r camau rydym yn eu cymryd i gefnogi iechyd, hyrwyddo twf a swyddi, torri’r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol a chefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig.

Ers inni gyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2014-15 ar 8 Hydref, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn craffu’n fanwl ar ein cynigion cyllideb, ac rwy’n croesawu’r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Pwyllgor Cyllid, sy’n dwyn ynghyd yr ystyriaethau hyn. Rwyf wedi ystyried argymhellion yr adroddiad hwn ac wedi rhoi fy ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Byddaf yn ystyried y themâu a ddaw i’r amlwg o’r cam craffu yng nghyd-destun y paratoadau ar gyfer cyllidebau’r dyfodol a’r camau yr wyf wedi cytuno i’w gweithredu o ganlyniad i Adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Rydym wedi gwneud nifer fach o newidiadau i adlewyrchu datblygiadau diweddar. Mae manylion y rhain wedi’u nodi yn Nodyn Esboniadol y Gyllideb Derfynol a’r Tablau Gweithredu, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r Gyllideb flynyddol.

Hefyd heddiw rwyf wedi cyhoeddi diwygiad o lif prosiectau’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Hwn yw’r pedwerydd diweddariad ac mae’n dangos ein hymrwymiad parhaus i alluogi penderfyniadau buddsoddi sy’n ddeallus yn strategol, gwneud y gorau o gyfleoedd cydweithredu potensial a gwella sicrwydd i’n partneriaid cyflenwi wrth iddynt gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn hyderus fod ein Cyllideb Derfynol ar gyfer 2014-15 yn adlewyrchu ac yn cefnogi ein Blaenoriaethau ar gyfer Cymru. Ein nod bellach yw cydweithio â’n partneriaid i roi ein cynlluniau ar waith a chyflawni’r canlyniadau rydym am eu gweld ar gyfer Cymru nawr ac yn y tymor hirach.