Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Cyllideb Derfynol Lywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16, sy’n adlewyrchu’r symiau yr ydym yn eu buddsoddi er mwyn amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys arian sylweddol newydd ar gyfer iechyd ac ysgolion.

Ers inni gyhoeddi Cyllideb Drafft 2015-16 ar 30 Medi mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi craffu’n fanwl ar ein cynigion. O ganlyniad i’r broses graffu hon cynhyrchwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft 2015-16, a gyhoeddwyd ar 11 Tachwedd.  Rwyf wedi ystyried yr argymhellion yn fanwl ac yn ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar wahân. 

Er bod nifer o faterion pwysig wedi dod i’r amlwg wrth graffu ar ein cynlluniau gwario, nid lleiaf consensws ynghylch pwysigrwydd buddsoddi mewn dulliau ataliol, rydym yn hyderus y bydd ein cynlluniau gwario’n ein galluogi i gyflawni ein Blaenoriaethau i Gymru.  Dyna paham y mae Cyllideb Drafft 2015-16 yn adlewyrchu mân newidiadau yn unig sydd wedi’u gwneud ers Cyllideb Drafft 2015-16.  Ceir manylion pellach y newidiadau hyn yn Nodyn Esboniadol Cyllideb Derfynol 2015-16. 

Heddiw, rwyf hefyd yn cyhoeddi diweddariad am y Llif o Brosiectau Arfaethedig o dan y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, sy’n rhoi darlun clir o fuddsoddi mewn seilwaith ledled Cymru.  Dyma’r chweched diweddariad ac mae’n dangos ein hymrwymiad parhaus i ddull strategol o wneud penderfyniadau buddsoddi, i fanteisio ar gyfleoedd i gydweithredu ac i roi mwy o sicrwydd i’n partneriaid wrth iddynt gynllunio am y dyfodol.

Mae’r llif diweddaraf o brosiectau arfaethedig bellach yn ymgorffori bron 370 o fuddsoddiadau ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys y meysydd heb eu datganoli sef rheilffyrdd ac ynni, gyda gwerith o fwy na £40bn.  Ers Mehefin 2014, mae hyn yn adlewyrchu cynnydd o 50 o brosiectau a chynnydd o £6bn yng ngwerth y prosiect.  Mae’r rhychwant o wybodaeth sydd wedi dod i law oddi wrth y sector preifat wedi cael ei ehangu ac, am y tro cyntaf, mae manylion buddsoddi yn seilwaith dŵr ledled Cymru wedi cael eu cyhoeddi.