Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwyf wedi cyflwyno Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 'Cymru Decach, Cymru Well - Buddsoddi at y Dyfodol'. Mae’r ddogfen yn nodi'r dyraniadau yr ydym yn eu gwneud i gefnogi ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu’r cyhoeddiadau a wneuthum yn y Ddadl ar y Gyllideb Ddrafft ar 9 Chwefror.

Ers inni gyhoeddi ein Cyllideb Ddrafft ar 8 Rhagfyr, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynd ati i graffu'n fanwl ar ein cynigion. Rydym wedi croesawu'r ymgysylltu a'r ymatebion adeiladol a ddaeth i law yn ystod y gwaith craffu ac rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n cynlluniau o ganlyniad i'r gwaith hwnnw. Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft 2016-17 ar 2 Chwefror a byddaf yn ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar wahân.

Mae buddsoddi mewn seilwaith allweddol wedi bod yn allweddol i'n dull gweithredu ysgogi economaidd yn y blynyddoedd diwethaf. Yn unol â hyn, yng Nghyllideb Ddrafft 2016-17 dyrannwyd cyfalaf ychwanegol gwerth £230 miliwn, ac o’r swm hwnnw darparwyd £80m i gefnogi prosiectau pwysig sydd wedi’u halinio’n strategol yn unol â’r blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

Ar ben hyn, yn gynharach y mis hwn cyhoeddais fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £120m ar gyfer 2016-17 i gefnogi ystod o brosiectau i Gymru yn unol â’r blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, gan gynnwys:

  • £50m ar gyfer prosiectau trafnidiaeth blaenoriaethol
  • £10m ar gyfer Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif i gefnogi prosiectau a fydd yn gwella sgiliau i fyfyrwyr ôl-16
  • £10m ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol, gan ganolbwyntio ar gyfleusterau 'cam-i-lawr' ac ail-alluogi ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth i gefnogi byw'n annibynnol a lleihau'r galw ar wasanaethau iechyd
  • £10m i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer adnewyddu cerbydau
  • £5m ar gyfer Twf Gwyrdd Cymru, gan ddarparu grantiau effeithlonrwydd ynni ar draws iechyd, awdurdodau lleol ac addysg
  • £2m ar gyfer rheoli llifogydd a’r risg i’r arfordir
  • £3m ar gyfer cartrefi cynnes / Arbed, i fynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy dwf gwyrdd drwy fuddsoddi mewn mesurau effeithlonrwydd ynni domestig
  • £10m tuag at fuddsoddi mewn gwasanaethau newyddenedigol mewn datblygiadau ar draws y Gorllewin, y De a’r Gogledd
  • £20m o drafodiadau ariannol i gefnogi prosiectau tai ac adfywio ledled Cymru, gan gynnwys:
    • Cynllun £10m - Tir ar gyfer Tai – bydd y cynllun yn darparu cyllid benthyciadau ailgylchadwy i landlordiaid cymdeithasol i brynu tir i gefnogi’r cyflenwad tai
    • Gronfa Benthyciad Canol Trefi gwerth £10m - ychwanegu o leiaf 40 o fentrau at y cynllun presennol i fuddsoddi mewn adeiladau gwag nad oes digon o ddefnydd arnynt.

Mae i’r buddsoddiad ychwanegol hwn y potensial i greu hyd at 2,000 o swyddi sy'n gysylltiedig â chamau adeiladu prosiectau penodol, gan gefnogi twf economaidd yn y tymor byr a’r tymor hir.

Mae’r buddsoddiad newydd a gyhoeddwyd gennym yn ein Cyllideb Ddrafft, ynghyd â’r buddsoddiad ychwanegol yr ydym wedi’i addo ers hynny, yn golygu ein bod yn buddsoddi dros £300m yn ychwanegol yn 2016-17 mewn Iechyd a Gwasanaethau Iechyd; £239m yn ychwanegol i gefnogi twf a swyddi; dros £110m yn ychwanegol i gefnogi cyrhaeddiad addysgol a £41m yn ychwanegol i gefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig.

Nodir manylion llawn y newidiadau rhwng y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Derfynol yn y Nodyn Esboniadol ar y Gyllideb Derfynol.

Mae holl ddogfennau’r Gyllideb Derfynol ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru.