Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf heddiw wedi gosod Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – ‘Cyllideb Newydd i Gymru’ – sy’n rhoi manylion y dyraniadau y byddwn yn eu gwneud i gefnogi’r blaenoriaethau yn ein strategaeth genedlaethol, ‘Ffyniant i Bawb’.

Mae’r Gyllideb Derfynol yn cymryd i ystyriaeth y dyraniadau cyllidol ychwanegol a wnaed yn dilyn Cyllideb Hydref Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd. Bydd dyraniadau cyfalaf ychwanegol yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn. 

Mae holl ddogfennau’r Gyllideb Derfynol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r dogfennau’n cynnwys:

Cynigion y Gyllideb Flynyddol

Nodyn Esboniadol y Gyllideb Derfynol

Prifysgol Bangor: Gwaith Craffu a Sicrhau Annibynnol ar Ragolygon Trethi Datganoledig i Gymru - Diweddariad i Adroddiad Terfynol Mis Hydref  

Rwy’n cyhoeddi’r Gyllideb Derfynol yn ystod y toriad er mwyn i Aelodau’r Cynulliad a’n partneriaid cyflenwi gael amcan cyn gynted â phosibl o’r cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Pe bai’r Aelodau’n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddwn i’n hapus i wneud hynny.