Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leo

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi cyflwyno Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 - Cyllideb sy'n blaenoriaethu'r gwasanaethau cyhoeddus sydd bwysicaf i bobl Cymru. 

Mae Cyllideb Derfynol 2024-25 yn adeiladu ar y cynlluniau gwario yr ydym eisoes wedi'u nodi yn y Gyllideb Ddrafft drwy gyhoeddi dyraniadau adnoddau a chyfalaf ychwanegol a nifer o newidiadau gweinyddol.

Mae dogfennau'r Gyllideb derfynol ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cynnwys:

  • Cynnig y Gyllideb Flynyddol.
  • Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (tablau BEL). 
  • Nodyn Esboniadol y Gyllideb Derfynol. 
  • Tablau sy'n Ategu'r Cynlluniau Gwario.
  • Llif Prosiectau Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (Chwefror 2023)

Mae'r ddogfen ganlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:

  • Asesiad annibynnol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'n cynigion ar gyfer trethi - Rhagolwg Trethi Cymreig, diweddariad Chwefror 2023.

Yn dilyn trafodaethau adeiladol â'r Aelod Dynodedig Arweiniol o Blaid Cymru, rydym hefyd yn cyhoeddi papur ar y cyd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer Datganiad Gwanwyn ar 6 Mawrth. Rwyf yn bwriadu gwneud datganiad mor gynnar â phosibl wedi hynny i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon a manylion unrhyw symiau canlyniadol i Gymru.

Cynhelir y ddadl a'r bleidlais ar y Gyllideb Derfynol yn y Senedd ar 5 Mawrth.