Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, rwyf wedi cyflwyno Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Mae’r Gyllideb Derfynol yn adeiladu ar y cynlluniau gwario a nodwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2026-27 a gyflwynwyd ar 14 Hydref (amlinellol) a 3 Tachwedd 2025 (manwl).
Mae’r Gyllideb Derfynol yn darparu £27.5bn ar gyfer pobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau ar draws Cymru. Mae hyn yn £1.2bn yn fwy nag yn 2025-26 a £400m yn fwy nag yn y Gyllideb Ddrafft.
Mae hyn yn cynnwys £300m o gyllid ar gyfer llywodraeth leol a’r GIG, wedi ei sicrhau drwy gytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae hyn yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus, wrth sicrhau bod gan y llywodraeth nesaf yr adnoddau sydd ei hangen arni i gyflawni ei blaenoriaethau.
Mae dogfennau’r Gyllideb Derfynol ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru ac maent yn cynnwys:
- Cynnig y Gyllideb Flynyddol
- Adroddiad y Gyllideb Derfynol
- Canllaw i’r Gyllideb Derfynol
- Tablau’r Prif Grwpiau Gwariant a Llinellau Gwariant yn y Gyllideb Terfynol
- Tablau sy’n Cefnogi’r Gyllideb Derfynol
- Yr Asesiad Effaith Integredig Strategol
- Canllaw Cyflym Cyfraddau Treth Incwm Cymru
- Cynllun buddsoddi yn Seilwaith Cymru: Diweddariad ar y Llif Prosiectau
Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hefyd wedi diweddaru eu hasesiad annibynnol o’n cynigion ar gyfer trethi – Rhagolwg Trethi Cymreig, diweddariad Ionawr 2026. Mae dolen i’r ddogfen hon ar gael ochr yn ochr â’r Dogfennau Cyllidebol.
Cynhelir y ddadl a’r bleidlais ar y Gyllideb Derfynol yn y Senedd ar 27 Ionawr.
