Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno a phasio ei Chyllidebau ei hun yn canolbwyntio ar dwf a swyddi, ac rydym wedi pwyso'n gyson ar Lywodraeth y DU i gymryd camau cadarnhaol i wneud yr un fath, yn hytrach na pharhau â’i rhaglen aflwyddiannus o galedi.

Mae hanes Llywodraeth Cymru yn dangos ei bod yn buddsoddi ym mlaenoriaethau Cymru. Er enghraifft, dros y flwyddyn hon a'r nesaf, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £1bn o gyllid ychwanegol yn GIG Cymru. Ar y llaw arall, o ganlyniad i'w rhaglen galedi, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud toriadau sy'n gyfwerth ag £1·4bn. Mae'r arian hwn wedi cael ei dynnu o wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ers 2011. Ni fydd symiau canlyniadol bach yn 2015-16 o £17·2m mewn cyllid refeniw a £0·9m mewn cyllid cyfalaf sy'n codi o’r Gyllideb hon yn gwneud llawer i leihau effeithiau'r toriadau hyn. Rydym wedi dweud o hyd bod toriadau Llywodraeth y DU yn rhy gyflym ac yn rhy ddwfn, ac mae eraill yn cytuno â'n hasesiad. Yn y cyfnod yn arwain at Gyllideb y DU, dywedodd sawl sylwebydd annibynnol, gan gynnwys LSE, mai camgymeriad oedd cyflymder y rhaglen o doriadau. Roedd y newidiadau mawr i dreth a wnaed ym mlynyddoedd cynnar Senedd y DU yn faich ar dwf, ac mae hanes Llywodraeth y DU yn dangos bod pobl yn dlotach a bod cyflogau'n is o ganlyniad.

Yn ei ddatganiad, cadarnhaodd y Canghellor ei fwriad i wneud toriadau dyfnach fyth mewn gwariant yn y pedair blynedd nesaf o gymharu â'r pum mlynedd ddiwethaf. Byddai'r toriadau hyn yn difetha ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yng ngweddill y DU. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Ariannol annibynnol y dweud y bydd angen i'r toriadau fod yn enfawr os bydd y Canghellor yn cyflawni ei gynlluniau.

O ran y cyhoeddiadau am Gymru a wnaed yn natganiad y Canghellor, mae rhai datblygiadau i'w croesawu. Mae'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar Brosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i sicrhau Cytundeb Dinas ar gyfer Caerdydd a'r rhanbarth ehangach o amgylch Caerdydd, yn newyddion da. Rydym wedi pwyso'n galed am y cyhoeddiadau hyn, ond byddai llawer mwy wedi'i gyflawni erbyn hyn pe bai Llywodraeth y DU wedi ymateb yn gynt i alwad Llywodraeth Cymru i gymryd camau o blaid twf.

Cyn y Gyllideb, ysgrifennais at Ganghellor y Trysorlys i amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i Gymru. Dyma bumed Cyllideb fawr y Canghellor a chyfle arall sydd wedi'i golli i fynd i'r afael â'r mater hanfodol o gyllid teg i Gymru - rhywbeth y mae pobl Cymru hefyd yn ei sylweddoli, yn ôl arolwg gan Brifysgol Caeredin. Rydym hefyd wedi bod yn ceisio cael mwy o hyblygrwydd ariannol i’n gwneud yn gyfartal â gweinyddiaethau datganoledig eraill - mae'n siom nad yw'r naill fater na’r llall wedi'u datrys.

Yn fy llythyr at y Canghellor, tynnais sylw hefyd at y potensial i fuddsoddi ym mhrosiect Cysylltedd Gogledd Cymru a Metro De Cymru. Fel Llywodraeth, rydym yn benderfynol na ddylai Cymru fod ar ei cholled i weddill y DU o ran buddsoddi mewn seilwaith. Bydd ein Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn buddsoddi tua £3·6bn o'r newydd yn economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru i hybu twf hirdymor a chreu neu gefnogi swyddi ar draws Cymru gyfan. Mae ein polisïau yn gwneud gwahaniaeth - mae data a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi gwella ar raddfa gynt na’r DU dros y chwarter diwethaf. Byddwn yn parhau i bwyso am symiau canlyniadol i Gymru o fuddsoddiadau arfaethedig Llywodraeth y DU yn HS2 a HS3 yn Lloegr, fel bod modd rhoi mwy o fomentwm fyth yn y buddsoddiad mewn seilwaith yng Nghymru.

Mae'r cyhoeddiad y bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ag iawndal i helpu diwydiannau ynni-ddwys gyda chostau trydan uwch yn sgil tariffau cyflenwi trydan ar raddfa fechan yn newyddion da i nifer o gyflogwyr pwysig yng Nghymru, gan gynnwys Celsa. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio wrth Weinidogion y DU ar draws Whitehall pa mor bwysig yw cyflogwyr o'r fath a'r swyddi maent yn eu darparu yng Nghymru. Yn yr un modd, mae lleihau tollau Pont Hafren yn fesur y mae holl Bleidiau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi galw amdano. Ond mae'n siom y bydd y rhaid i ni aros tan 2018 i weld budd y cyhoeddiad hwn.

Ni all yr ychydig newidiadau hyn ar ddiwedd pum mlynedd o galedi wyrdroi'r sefyllfa i'n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a fyddai’n wynebu toriadau dyfnach o ganlyniad i’r Gyllideb hon gan Lywodraeth y DU.