Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Canghellor y Trysorlys wedi cyflwyno ei ail ddatganiad cyllideb yn 2015..

Gelwais ar Gyllideb y DU i gyflwyno buddsoddiad yn ein seilwaith a fyddai’n hybu’r economi, gyda chefnogaeth y byd busnes  yng Nghymru. Pwysleisiais y dylid parhau i fuddsoddi mewn ysgolion, iechyd a thai. Mae cyllideb y Canghellor yn methu yn yr holl feysydd hyn.

Er gwaethaf y cynnydd o £4m a gyhoeddwyd i gyllideb refeniw Llywodraeth Cymru heddiw, yn sgil y gostyngiadau i’n cyllideb a wnaed gan y Canghellor fis diwethaf mae hyn yn golygu bod adnoddau Llywodraeth Cymru £46m yn llai eleni nag yn y Gyllideb Derfynol y cytunwyd arni fis Rhagfyr diwethaf. Cyn y Gyllideb ysgrifennais at y Canghellor i ddweud bod y toriadau cynyddrannol yn ystod y flwyddyn yr ydym eisoes wedi’u gweld, gan gynnwys ym maes cyfalaf, yn ei gwneud yn anodd cynllunio. Mae hyn yn newyddion drwg i fyd busnes ac i’n gwasanaethau cyhoeddus.

Datganodd y Canghellor y bydd yn dychwelyd at fater penodol, sef sut mae dod o hyd i £37bn o doriadau o Adrannau Whitehall yn yr Adolygiad arfaethedig o Wariant. Drwy fformiwla Barnett mae’r gostyngiadau hyn yn debygol o gael canlyniadau sylweddol inni yng Nghymru. Mae cyni parhaus yn golygu risgiau gwirioneddol i’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y mae pawb yn elwa ohonynt.

Mae Llywodraeth y DU wedi parhau i dorri nôl ar y wladwriaeth les. Mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru ei hunan wedi dangos y  bydd y newidiadau i daliadau lles sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno yn golygu gostyngiad o £900 miliwn yn incwm oedolion o oedran gweithio yng Nghymru eleni. Er bod colledion yn amrywio’n eang, rydym yn amcangyfrif y bydd colled flynyddol o £500 i bob oedolyn o oedran gweithio yng Nghymru. Bydd y cyhoeddiadau heddiw yn gwneud hyn yn waeth. Gwyddom eisoes bod y toriadau ar daliadau lles yn cael effaith anghymesur ar Gymru, ac mae toriadau rydym wedi cael ein gorfodi i’w gwneud i’n gwasanaethau cyhoeddus yn ei gwneud yn anodd inni liniaru’r effaith yn llwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi croeso petrus i’r Cyflog Byw Cenedlaethol ac wedi mynd ati i ‘w gyflwyno eisoes ar gyfer staff y GIG yng Nghymru. Serch hynny nid yw’n debygol o wneud iawn am y toriadau i gredydau treth yn achos y rhan fwyaf o deuluoedd. Bydd rhewi budd-daliadau i bobl o oedran gweithio am bedair blynedd yn ergyd drom iawn i aelwydydd incwm isel. Mae 17,550 o bobl yng Nghymru yn derbyn budd-dal tai ac oddeutu 163,000 o deuluoedd sy’n gweithio yng Nghymru yn derbyn naill ai Credydau Treth Gwaith neu Gredydau Treth Plant. Yn ôl ein hamcangyfrifon cychwynnol bydd gostwng y cap ar fudd-daliadau aelwydydd i £20k yn effeithio ar ryw 5,000 o aelwydydd yng Nghymru. Gallai’r newidiadau i’r hawl i gael budd-dal tai i rai 18-21 oed effeithio ar 1,200 o hawlwyr ychwanegol. Gyda’i gilydd, bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o bwysau ar bobl ledled cymunedau Cymru, a bydd yn effeithio’n anghymesur ar y rheini sydd angen y cymorth mwyaf.

Rwy’n croesawu ymrwymiad y Canghellor i’r ‘cyllid gwaelodol’ i ddarparu arian teg i Gymru a byddaf yn disgwyl camau gweithredu ar unwaith er mwyn sicrhau hyn fel rhan o’r Adolygiad o Wariant.