Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Gwneuthum Ddatganiad Llafar i’r Cynulliad Cenedlaethol ar 9 Gorffennaf 2013 ynglŷn â’r cytundeb gwleidyddol y daethpwyd iddo yn Ewrop ynghylch diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Amlinellais y prif bwyntiau y cytunwyd arnynt a rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am yr ymatebion i’r ‘sgwrs’ a gynhaliwyd yn ystod y gwanwyn â rhanddeiliaid yng Nghymru. Yn Sioe Frenhinol Cymru lansiais ymgynghoriad ynglŷn â thaliadau uniongyrchol i ffermwyr - Colofn 1 y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Roedd y ddogfen ymgynghori’n egluro prif nodweddion y diwygiadau a’r penderfyniadau rwy’n bwriadu eu gwneud, mewn egwyddor. Fel rhan o’r ymgynghoriad rwyf wedi cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru yn ystod yr hydref.

Roedd fy natganiad ym mis Gorffennaf, a’r papur ymgynghori, yn rhagdybio rhai pethau o ran cyllideb y Polisi Amaethyddol Cyffredin gan na fyddai trafodaethau rhwng Senedd Ewrop, Comisiwn Ewrop a Chyngor y Gweinidogion Amaeth yn arwain at fanylion terfynol tan fis Medi. Roedd yr oedi hwn o ran cadarnhau ffigur cyllideb y Deyrnas Unedig yn golygu nad oedd modd gwneud penderfyniadau o fewn y Deyrnas Unedig ynghylch y ffordd y câi cyllideb y DU ei rhannu. Rwyf eisoes wedi mynegi fy siom ynglyn â phenderfyniadau yn Ewrop ym mis Chwefror a arweiniodd at dorri’r gyllideb a rhoi llai i’r Deyrnas Unedig, a chanlyniadau amlwg hynny i Gymru. Ond er fy mod yn feirniadol o gyfraniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig at lunio’r setliad cyllideb hwnnw, mae DEFRA wedi dangos parodrwydd i geisio sicrhau bod cyllideb y Deyrnas Unedig yn cael ei dosbarthu’n deg ar draws y gwledydd. Mae’n siŵr fod Aelodau’r Cynulliad yn ymwybodol fod yr Alban wedi bod yn galw’n groch am gyfran uwch o lawer. Rwyf wedi gwrthwynebu’r ddadl honno, nid yn unig am ei bod yn ddiffygiol, ond oherwydd y byddai wedi golygu cyfran lai fyth i Gymru.  Fy nod i, mewn cyfnod o doriadau cyllid, oedd gwneud yn siŵr fod Cymru yn derbyn yr un gyfran o gyllideb y Deyrnas Unedig ag y gwnaeth hyd yn hyn, o leiaf.

Ysgrifennais at DEFRA yn ystod yr haf i nodi’n fanwl sut y dymunwn weld y gyllideb yn cael ei rhannu. Rwy’n hapus bod y cynigion wedi cael eu derbyn a bod cyllideb y Deyrnas Unedig wedi cael ei chytuno fel hyn.

Caiff cyllideb Colofn 1 ei dyrannu yn ôl yr un gyfran ag eleni, 2013. Bydd hyn yn golygu cyllideb flynyddol o €322 miliwn ar gyfer Cymru erbyn 2019, ar sail prisiau’r dydd. Bydd cyllideb pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn gostwng yn ôl un ganran, sef 1.6% o gyllideb 2013. Dyma’r canlyniad gorau ar gyfer Cymru, sy’n golygu y byddwn yn derbyn rhyw 8.96% o derfyn uchaf cyllideb y Deyrnas Unedig. Byddai’r dewisiadau eraill, yn enwedig unrhyw opsiwn a fyddai wedi rhoi arian ychwanegol i’r Alban, wedi golygu toriad mwy i Gymru. Rwy’n falch fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi sylweddoli pwysigrwydd trin pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn deg a rhannu’r gostyngiad i’r gyllideb yn gyfartal.  

Bydd Cymru yn derbyn €355 miliwn ar gyfer Colofn 2 yn ystod y cyfnod 2014-20, yn ôl prisiau heddiw. Dyma gynnydd o 7.8% o’i gymharu â’r cyfnod 2007-13. Bydd pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn elwa i’r un graddau ar y cynnydd yn nherfyn uchaf cyllideb Colofn 2 y Deyrnas Unedig. Credaf mai dyma’r canlyniad mwyaf teg, ac mae’n ganlyniad da i Gymru.    

Yn sgil cadarnhau cyllideb Cymru, bydd yn haws imi fwrw mlaen â’r gwaith modelu data gyda chynrychiolwyr y rhanddeiliaid. Byddaf yn cyhoeddi gwybodaeth bellach am fodelu maes o law, gan ddiweddaru’r senarios yn fy nogfen ymgynghori. Gan ei bod wedi cymryd cyhyd i gyrraedd ffigurau pendant y gyllideb, a minnau’n awyddus hefyd i ystyried diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin ochr yn ochr ag adolygiad Kevin Roberts o allu’r byd amaethyddol i ymdopi â risgiau, rwyf wedi ymestyn dyddiad cau’r ymgynghoriad ar daliadau uniongyrchol i ddiwedd mis Tachwedd. Byddaf hefyd yn cyhoeddi map mwy diweddar yn dangos rhostiroedd Cymru yn seiliedig ar y gwaith treialu sydd wedi defnyddio uchder i benderfynu pa ardaloedd ar fap rhostiroedd 1992 ddylai gael eu galw’n rhostiroedd i ddibenion taliadau Colofn 1. Bydd hyn yn arwain at alw llai o dir o lawer yn rhostir a chredaf y bydd y cynnig yn ymdrin â llawer o’r pryder a fynegwyd ynghylch rhostiroedd.  

Rwy’n bwriadu penderfynu’n derfynol ynglŷn â thaliadau uniongyrchol Colofn 1 o’r Nadolig 2013 a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ym mis Ionawr ynghylch y ffordd ymlaen, gan gynnwys trosglwyddo rhwng dwy golofn y PAC. Byddaf hefyd yn nodi fy nghynigion dangosol ar gyfer Colofn 2 – Cynllun datblygu Gwledig Cymru – bryd hynny, gan gynnwys fy nghynigion mewn perthynas â mesurau amaeth-amgylchedd y dyfodol. Mae amserlen Colofn 2 - Cynllun Datblygu Gwledig Cymru - yn wahanol; rwy’n bwriadu ymgynghori ar honno’r gwanwyn nesaf.