Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Canghellor y Trysorlys yn cyflwyno Cyllideb yr Hydref heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw’n gyson am roi terfyn ar bolisi cyni llywodraeth y DU, sydd wedi methu. Dyma’r amser i Lywodraeth y DU ddarparu’r hwb ariannol y mae gwir ei angen ar wasanaethau cyhoeddus, a dechrau dad-wneud y difrod sydd wedi’i achosi gan bron i ddegawd o doriadau.

Rydym yn rhoi croeso gofalus i awgrym Prif Weinidog y DU yn ddiweddar bod y cyfnod o gyni yn dod i ben, ac yn edrych ymlaen at weld tystiolaeth o hynny yn y Gyllideb heddiw.

Nid yw cyhoeddiadau Llywodraeth y DU yn hollol syml bob amser. Bydd angen inni dreiddio’n ddyfnach na’r penawdau yn y Gyllideb heddiw ac ystyried yr holl wybodaeth a gyhoeddir gan Lywodraeth y DU er mwyn deall y goblygiadau llawn i Gymru.

Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig arall yfory, pan fydd y manylion llawn yn gliriach.