Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n dda gen i gyhoeddi heddiw gam cyntaf y gwaith i gryfhau’r mesurau i amddiffyn adar y môr yn nyfroedd Cymru.  Y canlyniad yw estyn ffiniau 3 ardal fagu bwysig ar gyfer adar y môr i gynnwys ardaloedd sy’n bwysig hefyd iddyn nhw fwydo, twtio pluf ac ati.  Mae hynny’n golygu y bydd y dyfroedd o gwmpas eu mannau nythu yn cael yr un lefel o amddiffyniad â’r mannau nythu eu hunain.  Mae’r safleoedd yn denu miloedd o ymwelwyr i Gymru i fwynhau’r golygfeydd trawiadol a’r cyfoeth naturiol ynddynt.

Mae’r newidiadau hyn yn digwydd yn Ynys Gwales, Ynys Sgogwm ac Ynys Sgomer yn Sir Benfro ac Ynys Enlli ac Arfordir Aberdaron yng Ngwynedd.  Lle bo hynny’n briodol, rydym hefyd yn diweddaru’r rhestr o adar sy’n cael eu hamddiffyn.  Yn gryno, dyma’r newidiadau:

  • Estyn y ffin 2km o gwmpas Ynys Gwales
  • Estyn y ffin 4km o gwmpas Ynysoedd Sgomer a Sgogwm 
  • Estyn y ffin 9km o gwmpas Ynys Enlli

Roedd y wyddoniaeth oedd yn sail i hyn yn destun ymgynghoriad yn gynharach eleni gan Cyfoeth Naturiol Cymru.  Cewch weld manylion y newidiadau i  bob safle, y rhesymau gwyddonol drostynt a’r trefniadau i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio a’u rheoli’n gynaliadwy ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru http://www.naturalresourceswales.gov.uk/conservation-biodiversity-and-wildlife/reclassification-of-three-spas/?lang=cy.

Mae’r estyniadau hyn a’n safleoedd eraill yn gam ymlaen at greu rhwydwaith cydlynol o ardaloedd gwarchodedig morol.  Er hynny, gwn fod mwy i’w wneud i ddiwallu anghenion adar y môr a’r dŵr yn nyfroedd Cymru.  Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac mewn cydweithrediad â defnyddwyr y môr i ystyried ardaloedd eraill sy’n bwysig i adar.

Mae’n bwysig bod cymunedau a rhanddeiliaid lleol yn cael cymryd rhan yn fuan yn y broses.  Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau’r broses hon yn y misoedd i ddod.