Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, wedi cymeradwyo heddiw y taliadau rheoleiddio y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig eu codi yn 2023-2024 a’r trefniadau y mae angen i CNC eu gwneud i godi’r taliadau hyn o 1 Gorffennaf yn y meysydd canlynol: 

  • Rheoleiddio diwydiant
  • Gwastraff safleoedd
  • Ansawdd dŵr
  • Adnoddau dŵr
  • Rheoleieddio cronfeydd dŵr
  • Cyflwyno taliadau ar gyfer trwyddedu rhywogaethau

Mae’r taliadau a godir gan CNC yn cael eu pennu fel eu bod yn ad-dalu’r costau y mae CNC yn eu hysgwyddo am ei waith cydsynio a rheoleiddio, mewn ffordd deg a phriodol.

Ar sail ei Raglen Strategol ar gyfer Adolygu’r Taliadau a Godir (SRoC), bwriad CNC yw sicrhau ei fod yn cael y costau am reoleiddio a sicrhau’r canlyniadau sydd eu hangen ar amgylchedd Cymru a’r adferiad gwyrdd yn ôl oddi wrth y rheini y mae’n eu rheoleiddio, hynny heb ddefnyddio’u Cymorth Grant (GiA) na’r tâl a godir ar eraill i sybsideiddio’r costau hynny.

Mae CNC wedi datblygu’r taliadau y mae yn cynnig eu codi trwy broses o ymchwil fanwl i’r cefndir ac o drafod â Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid a rheoleiddwyr eraill yn y DU.  Ymgynghorodd CNC ar y taliadau y mae’n cynnig eu codi ar gyfer 2023-2024 yn Hydref 2022.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal archwiliad terfynol ac wedi cael y cadarnhad angenrheidiol i sicrhau bod Rhaglen SRoC CNC yn un gadarn ac yn sail gywir ar gyfer cefnogi a chymeradwyo taliadau CNC ar gyfer 2023-24.