Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth 

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ymhellach i fy natganiadau ar 20 Tachwedd a 5 Rhagfyr yn cyhoeddi bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo Rhaglenni Gweithredol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) 2014–2020 ar gyfer Cymru, rwy’n falch o gyhoeddi carreg filltir bwysig arall heddiw – cymeradwyo cyllid Ewropeaidd am y tro cyntaf yn y rownd hon o raglenni ar gyfer Campws Arloesi a Menter Aberystwyth.

Bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, sydd werth £35m ac yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth, yn derbyn £20 miliwn o arian Ewropeaidd i godi cyfleuster newydd sbon er mwyn denu cyllid ymchwil preifat a chystadleuol fel bod cwmnïau ac ymchwilwyr yn gallu ymgymryd â phrosiectau ymchwil ac arloesi cydweithredol i hybu’r bioeconomi.

Disgwylir i’r ymchwil arwain at gynhyrchion, gwasanaethau a sgil-gwmnïau newydd arloesol ym meysydd bwyd cynaliadwy, iechyd, biotechnoleg ac ynni adnewyddadwy. Mae’r mentrau sydd ar y gweill i CAMA ar Gampws Gogerddan yn cynnwys:

  • Canolfan Diogelwch Ynni, Bwyd a Maeth
  • Canolfan Bwyd y Dyfodol
  • Canolfan Bioburo
  • Biobanc a Chyfleuster Prosesu Hadau
  • Canolfan Rhyngddisgyblaethol ar gyfer y Bioeconomi
Bydd CAMA yn gweithio’n agos gyda Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) y Brifysgol, sydd eisoes yn llywio ymchwil ym meysydd diogelwch bwyd, bioynni a chynaliadwyedd, a’r newid yn yr hinsawdd. Mae IBERS hefyd yn arwain Canolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON, canolfan arloesol sy’n cael ei chefnogi gan yr UE a gafodd gydnabyddiaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd eleni drwy wobr bwysig RegioStars. 
Ni yw’r genedl gyntaf yn y DU ac un o’r cyntaf yn Ewrop lle mae’n rhaglenni wedi cael eu cymeradwyo, ac mae cymeradwyo prosiect CAMA heddiw yn dest i’r gwaith paratoadol gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a rhanddeiliaid i helpu i sicrhau bod buddsoddiadau’r UE yn parhau i lifo i economi Cymru. 

Bydd mwy o brosiectau’n cael eu cyhoeddi’r flwyddyn nesaf wrth i gynigion gael eu datblygu ymhellach a’u cymeradwyo.

Mae’r datganiad yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i’r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau, byddaf yn fodlon gwneud hynny pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd.