Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol, sy'n cynghori llywodraethau’r DU ar imiwneiddio, gan wneud argymhellion ynghylchamserlenni brechu a diogelwch brechlynnau

Fel rhan o'i adolygiad diweddaraf o'r rhaglen frechu COVID-19, cyhoeddodd y JCVI gyngor am gymhwystra ar gyfer hydref 2025 a gwanwyn 2026. Yr wyf wedi derbyn y cyngor hwn mewn perthynas â Chymru.

Bydd cymhwystra ar gyfer rhaglen COVID-19 hydref 2025 yn fwy cyfyngedig nag yn y blynyddoedd diwethaf a bydd y cymhwystra yn debyg i raglen bresennol y gwanwyn. Mae hyn yn cyd-fynd â throsglwyddo i raglen fwy cyfyngedig yn gyffredinol, gan fod lefelau uchel o imiwnedd wedi datblygu ymhlith y boblogaeth dros y pedair blynedd a hanner diwethaf. 

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar frechu pobl sy'n parhau i fod mewn mwy o berygl o ddioddef salwch difrifol, gan gynnwys marwolaeth. Mae hyn yn cynnwys oedolion hŷn ac unigolion sydd â system imiwnedd gwannach na'r cyffredin.

Yn ystod hydref 2025 a gwanwyn 2026, bydd y grwpiau canlynol yn gymwys i gael un dos o'r brechlyn COVID-19:

  • Pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Pob oedolyn sy’n 75 oed a hŷn
  • Unigolion rhwng 6 mis oed a 74 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, fel y'i diffinnir yn yr adrannau ar gyfer pobl sydd â system imiwnedd gwannach na'r cyffredin yn nhablau 3 a 4 y bennod ar COVID-19 yn y Llyfr Gwyrdd

Mae cyrff y GIG yn paratoi ar gyfer rhaglen COVID-19 yr hydref.

Mae'r JCVI yn parhau i adolygu cymhwystra ar gyfer y rhaglen frechu COVID-19, i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion iechyd y cyhoedd yn y dyfodol.