Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn ychwanegol o gymorth ardrethi annomestig ym mlwyddyn ariannol 2024-25. 

Rydym yn cydnabod bod busnesau a thalwyr ardrethi eraill yn parhau i brofi pwysau yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, yn enwedig oherwydd cyfraddau chwyddiant sy'n gyson uchel a'r cynnydd ar ôl cynnydd yn y gyfradd llog a gyflwynwyd gan Fanc Lloegr eleni i ostwng chwyddiant. 

Mae'r un pwysau hefyd yn cael ei deimlo gan y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt, ac sydd eu hunain yn ddibynnol ar y refeniw a godir drwy drethi lleol, gan gynnwys ardrethi annomestig.

Rydym wedi penderfynu rhoi cap o 5% ar y cynnydd i'r lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2024-25, ar gost flynyddol reolaidd i gyllideb Cymru o £18m. Mae hyn yn is na'r cynnydd o 6.7% a fyddai fel arall yn berthnasol oherwydd chwyddiant diofyn y lluosydd yn unol â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) a bydd o fudd i bob talwr ardrethi nad yw eisoes yn cael rhyddhad llawn. Dyma'r lefel uchaf o gymorth fforddiadwy gan ddefnyddio'r holl gyllid canlyniadol a ddaeth i Gymru o ganlyniad i benderfyniadau a gyhoeddwyd s’yn ymwneud â'r lluosydd yn Natganiad Hydref Llywodraeth y DU. 

Ni fydd cynnydd yn y lluosydd yn effeithio ar bron i hanner y talwyr ardrethi, gan gynnwys miloedd o fusnesau bach ledled Cymru, gan fod ein system hael o ryddhadau llawn yn golygu nad ydyn nhw'n talu ardrethi o gwbl. 

Caiff dadl ar y rheoliadau i osod y lluosydd ei hamserlennu yn y flwyddyn newydd. Yn amodol ar gymeradwyo'r rheoliadau, y lluosydd dros dro ar gyfer 2024‑25 yw 0.562.

Byddwn hefyd yn buddsoddi £78m yn ychwanegol i ddarparu pumed flwyddyn yn olynol o gefnogaeth i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda'u biliau ardrethi annomestig. Mae hyn yn adeiladu ar y bron i £1bn o gymorth a ddarparwyd drwy ein cynlluniau rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch ers 2020-21. 

Bydd talwyr ardrethi cymwys yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 40% drwy gydol 2024-25. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd y rhyddhad yn cael ei gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru. Ni fwriadwyd i'r rhyddhad dros dro hwn barhau am gyfnod amhenodol ac wrth inni fynd ati i gynnal ailbrisiadau'n amlach, byddwn yn sicrhau y bydd biliau ardrethi annomestig yn adlewyrchu'n well amodau'r farchnad gyfredol ar gyfer pob sector o'r sylfaen dreth. 

Yn ogystal, ac yn adlewyrchu'r newid hwn, rydym yn bwriadu datblygu “Cronfa Paratoi at y Dyfodol” newydd gwerth £20 miliwn yn gynnar yn 2024-25. Bydd y gronfa gyfalaf hon yn darparu cymorth i fusnesau sy'n buddsoddi yn eu busnes a'u heiddo.  

Byddwn yn parhau i gefnogi talwyr ardrethi y mae eu hatebolrwydd yn uwch yn dilyn ailbrisiad ardrethi annomestig 2023. Mae ein cynllun rhyddhad trosiannol yn parhau i gyflwyno newidiadau yn raddol ar gyfer talwyr ardrethi cymwys ar gost o £38m yn 2024‑25. 

O 2024-25, bydd y system ardrethi annomestig hefyd yn cynnwys mesurau newydd i gefnogi talwyr ardrethi sy'n buddsoddi mewn gwelliannau i eiddo ac ynni adnewyddadwy. 

Bydd y mesurau hyn i gyd yn darparu £134m o gymorth ychwanegol ar gyfer 2024-25. Ar y cyd â'n cynlluniau rhyddhad parhaol a ariennir yn llawn, sy'n werth £250m i fusnesau a thalwyr ardrethi eraill bob blwyddyn, bydd £384m yn cael ei wario yn 2024-25 ar gymorth ardrethi annomestig. 

Bydd pawb sy'n talu ardrethi yn elwa ar y pecyn hwn. 

Datblygwyd y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 yng nghyd-destun y sefyllfa ariannol anoddaf yr ydym wedi'i hwynebu ers datganoli a setliad nad yw'n ddigonol i ymateb i'r holl bwysau y mae ein cyllideb, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl Cymru yn eu hwynebu. Bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn i ailgyfeirio cyllid tuag at wasanaethau cyhoeddus craidd, rheng flaen. 

Mae ein pecyn ardrethi annomestig yn dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau i adfer o effeithiau heriau economaidd parhaus ac i ffynnu wrth symud ymlaen.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.