Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy natganiad ynglŷn â'r £120 miliwn o gymorth ariannol sydd wedi cael ei neilltuo ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan Omicron, gallaf gadarnhau bod y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer elfen Cadernid Economaidd y cyllid bellach yn fyw ar wefan Busnes Cymru.

Gallwch ddod o hyd i’r gwiriwr ar COVID-19 Crisis Support Tool | Business Wales

Bydd y gronfa yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru a bydd grantiau dewisol yn cael eu darparu i’r sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a’u cadwyni cyflenwi drwy broses ymgeisio ac yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.

Bydd cyfnod ymgeisio y gronfa yn agor yn yr wythnos sy’n dechrau ar 17 Ionawr ac yn parhau i fod ar agor am bythefnos.

Mae’r gronfa ar agor i fusnesau sydd â rhwng 1 a 249 o gyflogeion cyfwerth â llawn amser (FTE), gan gynnwys elusennau a mentrau cymdeithasol.

Dyma’r grantiau sydd ar gael i fusnesau cymwys:
 

Cyfwerth â Llawn Amser (FTE) Busnesau wedi’u cau gan reoliadau ar 27.12.21 Mannau digwyddiadau ac atyniadau Busnesau eraill sydd â chyfyngiadau 

1-3

£5,000         £3,500 £2,500

4-9

£10,000         £7,000 £5,000

10-49

£15,000      £12,000 £7,500

50-99

£20,000       £15,000   £10,000

100+

£25,000      £20,000

£15,000

Yn ogystal â’r Gronfa Cadernid Economaidd, bydd Awdurdodau Lleol yn darparu grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig (NDR) i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol (NERHLT).  Ni fydd proses ymgeisio ar gyfer yr elfen hon ond i gael taliad, rhaid i fusnesau gofrestru â’u hawdurdod lleol i gadarnhau eu manylion. Yna bydd grantiau cysylltiedig ag NDR yn cael eu talu’n uniongyrchol i dalwyr ardrethi fel a ganlyn:

  • Bydd busnesau NERHLT sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys am daliad o £2,000.
  • Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys am daliad o £4,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.
  • Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £500,000 yn gymwys am daliad o £6,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.

Bydd awdurdodau lleol hefyd yn rhedeg cronfa ddewisol drwy broses ymgeisio fer. Bydd unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsi yn gallu gwneud cais am £500 a bydd busnesau sy’n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes yn gallu gwneud cais am £2,000.

Bydd y broses gofrestru ar gyfer y grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig a’r broses ymgeisio ar gyfer y gronfa ddewisol yn agor yn yr wythnos sy’n dechrau ar 10 Ionawr 2022.