Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy natganiadau blaenorol am y £120 miliwn o gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae Omicron yn effeithio arnynt, gallaf yn awr gadarnhau dau newid pwysig a wnaed i'r meini prawf cymhwysedd a'r dyfarniad grant. 

O dan y pecyn diweddaraf, bydd awdurdodau lleol yn darparu Cronfa Fusnes Frys ddewisol ar gyfer busnesau ac unig fasnachwyr nad ydynt yn talu ardrethi. Yn dilyn trafodaethau gyda partneriaid, diwydiant ac undebau llafur, rydym wedi cynyddu'r wobr ar gyfer unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsi cymwys nad ydynt yn talu ardrethi i £1,000. 

Rydym hefyd wedi diwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer lefel y trosiant is sy'n ofynnol ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF). Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer grant ERF, mae'n rhaid i fusnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi fod wedi cael effaith sylweddol drwy lai o drosiant o 50% neu fwy rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Chwefror 2022 o'i gymharu â mis Rhagfyr 2019 a mis Chwefror 2020.

Mae gwiriwr cymhwysedd ar gyfer elfen ERF y cyllid ar gael ar wefan Busnes Cymru. Mae'r gwiriwr i'w weld yn Offeryn Cymorth Argyfwng COVID-19 | Busnes Cymru (llyw.cymru)

Bu i’r broses gofrestru ar gyfer y grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig a ddarperir gan awdurdodau lleol agor ar 13 Ionawr 2022, a bydd proses ymgeisio yr awdurdodau lleol ar gyfer cyllid brys ynghyd â'r Gronfa Cadernid Economaidd yn agor yr wythnos ganlynol.