Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Drwy gydol yr argyfwng COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed i gefnogi busnesau a gweithwyr yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt.  Rydym wedi darparu cymorth yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, drwy'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau unrhyw le yn y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dros £1 biliwn i helpu busnesau drwy ryddhad ardrethi ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch a grantiau sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig. Hefyd rydym eisoes wedi dyrannu dros tua £600 miliwn i helpu busnesau drwy gamau 1, 2 a 3 ein Cronfa Cadernid Economaidd, a’r Gronfa Adferiad Diwylliannol a'r Gronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden, Mae hyn wedi arwain at fusnesau’n derbyn cymorth drwy grantiau, a thrwy gynllun benthyciadau a chymorth sgiliau Banc Datblygu Cymru .

Ddoe cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth ariannol mawr arall gwerth £340 miliwn i fusnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y set newydd o gyfyngiadau wedi'u targedu sy'n dod i rym am 6pm ar 4 Rhagfyr 2020.  Mae hyn yn  cynyddu’r cymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru a’u cyflogeion ers dechrau pandemig COVID-19 i tua £2 biliwn, ac mae’n ychwanegol at y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU drwy, er enghraifft, y Cynllun Cadw Swyddi a'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.

Elfen gyntaf y pecyn cymorth diweddaraf hwn yw Cronfa Gyfyngiadau i Fusnesau gwerth £160 miliwn y disgwylir iddi helpu rhwng 40,000 a 60,000  o fusnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden, twristiaeth a manwerthu ledled Cymru y mae'r cyfyngiadau wedi effeithio arnynt.  Bydd y Gronfa Gyfyngiadau i Fusnesau yn darparu’r cymorth canlynol:

  • Bydd busnesau yn y sector lletygarwch sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys i gael taliad o £3,000. Bydd busnesau yn y sectorau twristiaeth, hamdden a manwerthu a busnesau yn y gadwyn gyflenwi sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach hefyd yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gollwng dros 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
  • Bydd busnesau lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000, os yw’r cyfyngiadau wedi effeithio arnynt. Bydd busnesau yn y sectorau twristiaeth, hamdden a manwerthu, a busnesau yn y gadwyn gyflenwi hefyd yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gollwng dros 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
  • Bydd busnesau lletygarwch â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a  £150,000 hefyd yn gymwys i gael taliad o £5,000 os yw’r cyfyngiadau wedi effeithio arnynt. Bydd busnesau twristiaeth sydd â’r un gwerth ardrethol hefyd yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gollwng dros 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau. 

Bydd cymorth yn ôl disgresiwn yn parhau i fod ar gael drwy awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer y busnesau hynny yr effeithir arnynt yn sylweddol.  Yn yr un modd ag yn ystod y cyfnod atal byr, bydd y cymorth hwn yn cael ei dargedu at fusnesau nad ydynt ar y system ardrethi annomestig, ac felly nad ydynt yn gymwys ar gyfer grantiau sy’n gysylltiedig â’r system hon. Bydd lefel y grant ar gyfer y ffrwd hon yn cael ei phennu ar sail costau cymwys o hyd at £2,000 (£1,500 fel arfer) fesul busnes. Bydd hyn hefyd yn rhoi cymorth i unig fasnachwyr nad ydynt yn talu TAW y mae eu trosiant wedi gostwng dros 40% o ganlyniad i'r cyfyngiadau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau, lle y bo modd, y gwneir taliadau i sectorau yr effeithir arnynt cyn gynted ag y bo modd cyn y Nadolig.

Mae ail elfen y cymorth sydd ar gael yn y pecyn cymorth diweddaraf hwn yn cael ei thargedu'n gyfan gwbl at fusnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden neu gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi y mae’r cyfyngiadau wedi cael effaith sylweddol arnynt. Bydd y pecyn hwn yn gweithredu ochr yn ochr ac yn ogystal â chymorth a ddarperir drwy grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig i roi cymorth i hyd at 8,000 o fusnesau lletygarwch, gyda’r potensial i roi cymorth i hyd at 2,000 busnes arall yn y gadwyn gyflenwi.

Bydd yr elfen ychwanegol hon ar gael i fusnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden y mae eu trosiant wedi gostwng dros 60% o ganlyniad i’r cyfyngiadau. Bydd ar agor i gwmnïau sydd wedi eu cofrestru ar gyfer TAW a chwmnïau cyfyngedig mae eu trosiant dros £50,000 ac sy’n cyflogi staff drwy’r Cynllun Talu wrth Ennill. Os yw busnes yn bodloni’r meini prawf uchod, bydda’r pecyn yn darparu’r canlynol:

  • Ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig: Bydd £1,500 ar gael fesul cyflogai hyd at gyfanswm o ddeg cyflogai, sef £15,000 neu, ar gyfer busnesau sy’n cyflogi mwy na deg o bobl, £1,500 fesul cyflogai neu hunanddatganiad o gostau gweithredu ar gyfer cyfnod y cyfyngiadau (p’un bynnag yw’r swm isaf). Y terfyn uchaf ar gyfer busnesau bach a chanolig fydd £100,000, gyda’r cais yn caei ei wneud yn ddigidol. Ar gyfer busnesau a chanddynt un cyflogai y grant isaf fydd £2,500.
  • Ar gyfer busnesau nad ydynt yn fusnesau bach a chanolig, bydd £500 ar gael fesul cyflogai hyd at gyfanswm o £150,000, gyda’r cais yn cael ei wneud â llaw drwy Fusnes Cymru.

Bydd gwirydd cymhwysedd ar gyfer y pecyn newydd hwn yn mynd yn fyw ar 11 Rhagfyr 2020, a bydd y broses ymgeisio’n agor ym mis Ionawr.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn parhau i fod ar gael i gefnogi busnesau drwy amrywiaeth o opsiynau cymorth.  Gall Llinell Gymorth Busnes Cymru ddarparu gwybodaeth a chyngor ymarferol i unrhyw fusnesau sy'n cael problemau o ganlyniad i’r coronafeirws, fel oedi yn y gadwyn gyflenwi neu broblemau staffio.  Darperir y cymorth yn rhithwir – dros y ffôn, galwadau fideo ac yn ddigidol gan gynnwys gweminarau.

Anogir unrhyw fusnes yr effeithir arno i fynd i wefan Busnes Cymru yn https://businesswales.gov.wales/cy  yn y lle cyntaf, neu gysylltu â llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 rhwng 10am-4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, lle gellir darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol, neu gyfeirio at asiantaethau a sefydliadau perthnasol.