Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Awst, rhoddais wybod i’r Aelodau y byddai Llywodraeth Cymru, ar ôl i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, yn rhoi’r gorau i ddarparu cymorth i wladolion yr UE ac aelodau eu teulu sy’n astudio yng Nghymru. Gwnaeth gwledydd eraill y DU gyhoeddiadau tebyg.

Bydd myfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau ar eu cyrsiau neu a fydd yn dechrau arnynt cyn 1 Awst 2021 yn parhau i fod yn gymwys am gymorth a statws ffioedd cartref drwy gydol eu cwrs.

Mae’n bleser gen i gadarnhau nawr y bydd Llywodraeth Cymru, o 1 Awst 2021, yn amodol ar wneud y ddeddfwriaeth, yn darparu cymorth i wladolion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) ac o’r Swistir sydd â hawliau dinasyddion o dan y gwahanol gytundebau ymadael, aelodau o deuluoedd pobl o Ogledd Iwerddon, plant gwladolion y Swistir, plant gweithwyr o Dwrci, gwladolion y DU sy’n byw yn yr AEE a’r Swistir, gwladolion y DU a’r UE sy’n breswylwyr yn Gibraltar, a dinasyddion Prydain ac Iwerddon o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin. Bydd y cymorth i rai grwpiau yn gyfyngedig i gyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2028. Rhoddir statws ffioedd cartref i bob grŵp yng Nghymru. Yn ogystal, bydd gwladolion y DU sy’n byw yn nhiriogaethau tramor Prydain yn gymwys am statws ffioedd cartref, yn ogystal â, tan 1 Ionawr 2028, wladolion y DU sy’n byw yn nhiriogaethau tramor yr UE. Yn unol â’r arfer, bydd yn rhaid bodloni’r amodau preswylio. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth yn fuan.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar ôl i’r Senedd ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.