Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd yw menter Llywodraeth Cymru i helpu pobl yng Nghymru i symud yn nes at  gyflogaeth ac ymuno â'r gweithlu. Yn raddol, bydd yn disodli Twf Swyddi Cymru+, ReAct+ a Cymunedau am Waith+ ac yn ystyried ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw'n ymwneud â Chanolfannau Byd Gwaith. 

Mae'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd yn cael ei chynllunio ochr yn ochr â rhanddeiliaid, ac mae wedi ymgysylltu â thua 600 o unigolion ledled Cymru ers 2025. Bydd hyblygrwydd a'r unigolyn yn ganolog iddi. Bydd yn gallu ymateb i newidiadau yn y farchnad lafur a blaenoriaethau'r Llywodraeth. 

Mae'r dystiolaeth yn glir; mae marchnad lafur Cymru yn parhau i arddangos anghydraddoldebau amlwg a chyson o ran cyflogaeth. Bydd y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd yn cwmpasu: 

  • Pobl 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
  • Pobl 25 oed neu'n hŷn sy'n profi diweithdra tymor byr (llai na 6 mis)
  • Pobl 25 oed neu'n hŷn sy'n profi diweithdra tymor hir (dros 6 mis a hyd at 24 mis)
  • Pobl sy’n economaidd anweithgar

Bydd model gweithredu cymysg yn defnyddio proses gaffael gystadleuol a grantiau wedi'u targedu i sicrhau parhad a hyblygrwydd ledled Cymru.  Bydd y broses gaffael gystadleuol yn cael ei lansio ar Fawrth 16 drwy gyhoeddi'r hysbysiad tendro.