Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae llawer o heriau'n ein hwynebu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Ni ellir peidio â sylweddoli'r effaith gronnol y mae'r cynnydd sylweddol mewn costau tanwydd, chwyddiant uchel, prisiau uwch ym maes rhentu a thai, yn ei chael ar bobl, ac ym aml, nid yw eu hincwm yn codi i'r un graddau.

Yn ystod 2022-23 a 2023-24, darparodd Llywodraeth Cymru fwy na £3.3 biliwn o gymorth i helpu pobl sy'n cael trafferth gyda chostau byw, gan helpu drwy raglenni wedi'u targedu a oedd yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

Yn rhan o'r cytundeb gyda Phlaid Cymru ar y gyllideb ar gyfer 2023-24, rydym wedi trefnu y bydd £40 miliwn o gyllid cyfalaf ad-daladwy ar gael dros y ddwy flynedd nesaf i gyflwyno cynlluniau a fydd yn cynnig cymorth ariannol hyblyg. Heddiw, rwy'n falch o fedru cyhoeddi bod cynllun cymorth morgeisi Cymorth i Aros Cymru yn cael ei lansio ac o gael darparu gwybodaeth i berchnogion tai,  gan gynnwys y meini prawf ar bwy fydd yn gymwys i gael cymorth.

Bydd cynllun Cymorth i Aros Cymru yn cynnig opsiwn i berchnogion tai sy'n ei chael yn anodd fforddio eu taliadau morgais ac sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartref. Bydd yn gwneud hynny drwy gynnig ad-dalu rhan o'r balans morgais sydd ganddynt eisoes drwy roi benthyciad ecwiti cost isel iddynt sy'n cael ei ddiogelu drwy ail arwystl (i'w dalu ar ôl talu benthyciwr yr arwystl cyntaf), gan leihau'r ad-daliadau morgais diwygiedig i lefel y gall yr ymgeisydd ei fforddio.

O dan y rhan fwyaf o'r cynlluniau sydd ar gael ar hyn o bryd, mae'n rhaid bod pobl yn wynebu achos cymryd meddiant eisoes cyn bod yn gymwys i gael unrhyw gymorth. Bydd Cymorth i Aros yn ehangu hynny i gynnwys pobl sy'n wynebu achos cymryd meddiant a/neu galedi ariannol.

Mae trafodaethau manwl am y farchnad forgeisi, a gynhaliwyd yng nghyswllt yr ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio i edrych ar gymorth morgeisi yn lleol, wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth o'r bylchau yn y farchnad a sut y gallwn dargedu cymorth. Mae cyfle bellach i helpu rhagor o bobl drwy ehangu'r cymorth achub morgeisi rydym yn ei gynnig ar hyn o bryd er mwyn inni fedru cynnig cymorth yn gynt, ac nid dim ond pan fo bygythiad i eiddo pobl gael ei adfeddu. Mae hynny’n cynnwys darparu cymorth i'r bobl hynny sy'n gaeth i gynnyrch amrywiadwy safonol ac nad ydynt yn gallu trefnu morgais newydd fforddiadwy.

Yn ôl ffigurau UK Finance, bydd tua 800,000 o forgeisi sefydlog yn dod i ben cyn diwedd eleni, a 1.6 miliwn o forgeisi eraill yn dod i ben yn 2024. Nid yw'r ffigurau'n cynnwys morgeisi cyfraddau amrywiadwy a morgeisi olrhain, a fydd wedi codi'n sydyn eisoes, gan arwain at daliadau uwch.

Mae'r Resolution Foundation (dolen allanol, Saesneg yn unig) yn dweud y bydd ad-daliadau morgais blynyddol £15.8 biliwn y flwyddyn yn uwch erbyn 2026 o gymharu ag ym mis Rhagfyr 2021, pan ddechreuodd y Banc bennu cyfraddau llog uwch. Disgwylir i'r ad-daliadau blynyddol i bobl a fydd yn ailforgeisio y flwyddyn nesaf fod £2,900 yn uwch ar gyfartaledd.

Mae'r ystadegau am achosion adennill meddiant gan fenthycwyr morgeisi a landlordiaid ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023 yn dangos bod achosion o hawlio meddiant wedi cynyddu 15% o gymharu â'r un chwarter yn 2022.

Drwy weithredu yn awr a buddsoddi mwy, gallwn atal llawer o unigolion a theuluoedd rhag wynebu achosion adennill meddiant a bod yn ddigartref. Byddai hynny'n ychwanegu at y rhestrau aros sydd eisoes dan straen a hefyd at gostau uchel y llety dros dro a ddarperir gan yr awdurdodau lleol.

Mae'r cynllun ar gael i aelwydydd cymwys sydd wedi archwilio'r holl fesurau eraill a gynigir gan y darparwr morgeisi drwy Siarter Morgeisi'r DU, ac sydd wedi gofyn am gymorth oddi wrth wasanaethau cynghori ar ddyledion.

Bydd perchnogion tai sy'n gymwys o dan y cynllun yn cael cyngor rhad ac am ddim am forgeisi oddi wrth arbenigwyr sy'n cynghori ar ddyledion, a bydd y costau'n cael eu talu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn fodd i sicrhau bod yr Ymgeisydd wedi cael cyngor annibynnol am yr opsiynau sydd ar gael iddo, i gadarnhau nad oes unrhyw atebion eraill posibl ac i gadarnhau, ar ôl edrych ar amgylchiadau'r Ymgeisydd at y pryd, y lefelau o ddyled y byddai'n rhesymol iddo fedru fforddio'i had-dalu.

Bydd canllawiau llawn ar y cynllun, gan gynnwys y meini prawf ar bwy sy'n gymwys i gael cymorth, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru o 7 Tachwedd

Mae cefnogaeth a gwaith caled partneriaid allanol ac arbenigwyr yn y sector wedi bod yn hollbwysig wrth inni bennu'r meini prawf cywir ar gyfer bod yn gymwys i gael cymorth ac wrth inni benderfynu ar y prosesau cymorth cywir.

Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu gyda'r pwerau sydd gennym i helpu i amddiffyn aelwydydd sy'n agored i niwed yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae cynllun newydd Cymorth i Aros Cymru yn ychwanegu at y cymorth hwnnw a bydd yn helpu i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i berchnogion tai sydd o dan straen ariannol er mwyn iddynt fedru aros yn eu cartrefi.